Ymosodiad pêl-droed: dyn ar fechnïaeth amodol

Monday, 19 January 2026 15:07

By Ystafell Newyddion MônFM

CPD Porthmadog

Mae dyn 35 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol yn dilyn ymosodiad yn ystod gêm bêl-droed rhwng Porthmadog a Bae Trearddur.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ceisio cyngor ar gyhuddiadau yn dilyn y digwyddiad yn ystod gêm Cynghrair Ardal yn Y Traeth brynhawn Sadwrn.

Mae ditectifs hefyd yn apelio ar y sawl a ffilmiodd luniau o'r digwyddiad i ddod ymlaen.

Yn dilyn cyfarfod brys ddydd Sul, cyhoeddodd Clwb Pêl-droed Bae Trearddur eu bod wedi gwahardd chwaraewr, Tom Taylor, ar unwaith yn dilyn gwaharddiad byr.

Yn ôl CPD Porthmadog, mae Danny Brookwell yn gwella gartref ar ôl iddo gael triniaeth ar y cae am gyfergyd.

Dyweddod Arolygydd Ardal Iwan Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Rwy'n ymwybodol o ddeunydd fideo o'r digwyddiad, ac rwy'n diolch i aelodau'r cyhoedd am gysylltu â ni. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r dioddefwr."

"Rydym bellach yn apelio ar yr unigolyn a ffilmiodd y darn fideo i gysylltu â ni er mwyn i ni gael datganiad tystiolaeth er mwyn i ni gynnwys hynny yn swyddogol yn y ddogfen ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron."

"Hefyd, rydw i'n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, sydd heb siarad â ni eisoes, i gysylltu â ni."

Ychwanegodd: "Neges i atgoffa unigolion fod hwn yn achos gweithredol, bod rhannu gwybodaeth, neu ddyfalu am faterion yn ymwneud  â'r gyfraith yn medru arwain at oblygiadau cyfreithiol."

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn ymchwilio i'r digwyddiad yn ystod y gêm gynghrair, a enillodd Porthmadog 3-2.

Ni chafodd unrhyw gardiau coch eu rhoi yn ystod y gêm gan y dyfarnwr, Richard Gwyn Edwards, ond rhoddwyd cerdyn melyn i Taylor yn dilyn yr ymosodiad honedig.

Yn dilyn cyfarfod y pwyllgor, dywedodd llefarydd ar ran CPD Bae Trearddur: "Nid yw Clwb Pêl-droed Bae Trearddur yn cymeradwyo trais o unrhyw fath ac yn cydnabod na ddylai'r digwyddiad fod wedi digwydd.”

“Mae'r clwb yn cynnig ei ymddiheuriadau diffuant i'r chwaraewr arall dan sylw, Clwb Pêl-droed Porthmadog, swyddogion y gêm, cefnogwyr, a'r gymuned bêl-droed ehangach.”

“Bydd y clwb yn cydweithredu'n llawn ag unrhyw ymchwiliadau allanol neu brosesau disgyblu ac ni fydd yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd tra bod y materion hyn yn parhau.”

Dyweddod llefarydd ar ran CPD Porthmadog: “Yn dilyn y digwyddiad yn Y Traeth brynhawn ddydd Sadwrn, sydd wedi cael ei ddogfennu'n dda ar amryw o gyfryngau cymdeithasol, hoffai'r clwb bwysleisio mai ei brif bryder yw lles a diogelwch ein chwaraewr Danny Brookwell.”

”Cafodd Danny gyfergyd ac ar ôl triniaeth bu'n rhaid iddo adael y cae chwarae. Ein dealltwriaeth ni yw ei fod yn gwella gartref.”

“Hoffai'r clwb fynegi ei siom bod y digwyddiad hwn wedi digwydd o gwbl. Bwriad y clwb yw gadael i'r awdurdodau priodol ddelio â'r mater ac ymddiried y bydd y camau cywir yn cael eu gwneud a'n bod ni ddim yn gweld golygfa mor erchyll eto.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101 neu ymweld â'r wefan, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000046180.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Mid-Week Smooth

    11:00pm - Midnight

    Join Dai Sinclair for an hour of Smooth music to finish the night on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'