Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei chynnig o ofal plant wedi'i ariannu i blant dwy oed ar Ynys Môn.
O'r wythnos hon ymlaen, bydd holl rieni a gofalwyr plant dwy oed lleol yn gallu gwneud cais am 12.5 awr yr wythnos o ofal plant, dim ots ymhle y maent yn byw ar yr ynys.
Bydd y ddarpariaeth gyffredinol newydd, sy'n cael ei chyflwyno ar draws 22 awdurdod lleol Cymru, yn cael ei lansio ddechrau mis Tachwedd gan Gyngor Ynys Môn.
Yn ôl y Dirprwy Brif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru yn "cyflymu" ei hymrwymiadau i deuluoedd.
Dyweddod Sioned Williams: "Cymru sydd â'r costau gofal plant uchaf yn y DU ac rydw i'n benderfynol o helpu teuluoedd ledled Cymru, gan gefnogi datblygiad plant ar yr un pryd."
"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i gyflwyno'r cynnig hwn ym mhobman. Mae hyn yn golygu gwario gyda phwrpas – fel bod pob punt yn gweithio'n galetach i Gymru."
Dywed Cyngor Ynys Môn fod yr ehangu yn nodi carreg filltir arwyddocaol wrth gyflwyno'r cynnig fesul cam, sydd i fod i gael ei chwblhau erbyn diwedd mis Mawrth nesaf.
Bydd hefyd yn cefnogi darparwyr gofal plant ar yr ynys i ymdopi â'r galw cynyddol, gan geisio cryfhau cynaliadwyedd hirdymor y sector.
Mae cynlluniau yn y dyfodol i ymestyn y gefnogaeth i blant dwy oed o 12 i 20 awr yr wythnos ac i ymestyn y gwasanaeth i blant tair a phedair oed, ac yn y pen draw, i blant bach rhwng naw mis a dwy oed.
Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfed Jones, sy'n dal portffolio plant yng Nghyngor Môn: "Mae hwn yn gam sylweddol i deuluoedd ar draws yr ynys ac mae'n cefnogi'r weledigaeth a nodir yng Nghynllun y Cyngor 2023-2028 o greu Ynys Môn sy'n iach ac yn ffyniannus, lle gall pobl ffynnu."
"Drwy fuddsoddi yn ein trigolion ieuengaf, rydym yn helpu i sicrhau bod plant yn cael mynediad at brofiadau blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel sy'n cefnogi eu datblygiad, eu lles a'u dysgu yn y dyfodol."
"Bydd y cynnig hefyd yn darparu cymorth i rieni a gofalwyr, gan helpu mwy o deuluoedd i oresgyn rhwystrau i waith neu hyfforddiant sy'n deillio o drefniadau gofal plant."
"Mae rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant yn un o'r buddsoddiadau pwysicaf y gallwn eu gwneud ar gyfer dyfodol Ynys Môn, ac mae'r cynnig hwn yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi plant, teuluoedd a chymunedau i ffynnu."
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i wefan Cyngor Ynys Môn. Bydd y ddarpariaeth newydd yn lansio ddydd Llun 2 Tachwedd.


Llangefni: ymosodiad rhywiol ar heddwas
Digartrefedd yn y chwyddwydr mewn cyfres teledu
Prosiect i adfywio byd natur yn Nant Ffrancon
Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid
Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig