Bydd Y Bandana yn perfformio am y tro cyntaf ers deng mlynedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Benfro eleni.
Bydd y band roc o Gaernarfon yn ailuno i chwarae ar Llwyfan y Maes ar nos Wener yr Brifŵyl y Garreg Las (7 Awst) - bron yn degawd ers eu gig olaf yn eu tref enedigol.
Yn ôl Sion Owens, basydd y band, er bod degawd wedi pasio ers gig olaf y band, roedd yn rhyfedd o hawdd i ddod yn ôl at ei gilydd.
"Wrth ymarfer, mae wedi bod yn hyfryd cael gwneud sŵn efo'r hogia eto. ‘Da ni’n sicr fydda ni'n rhoi sioe i’w chofio i bawb ar y noson."
Ychwanegodd: "Ein bwriad ydi mynd a’r gynulleidfa nôl mewn amser gan greu set llawn nostalgia! Dyma gyfle i ni gael ail fyw a dathlu diniweidrwydd ieuenctid a’i ddod â fo i genhedlaeth newydd hefyd, gyda’r gobaith o greu atgofion a chael lot o hwyl yn gwneud hynny."
"Ma’r Eisteddfod wedi newid dros y ddegawd diwetha. Ma’ Llwyfan y Maes yn fwy o beth ac mae perfformiadau rhai o’r bandiau yn uchafbwynt yr wythnos i lawer erbyn hyn."
"Mae’n fyd arall i sut roedd petha pan oedda ni’n chwarae ar yr hen lwyfan perfformio - felly ‘da ni’n edrych mlaen i gael chwarae ar y llwyfan mawr proffesiynol sydd yna erbyn heddiw."
Dyma fydd eu perfformiad cyntaf ar Faes yr Eisteddfod ers Y Fenni yn 2016.
Dwyeddod Betsan Moses, prif weithredwr Eisteddod Genedlaethol Cymru: "Rydyn ni’n hynod falch o allu cadarnhau heddiw bydd y Bandana yn cloi nos Wener ar y Llwyfan."
"Gyda rhes o ganeuon poblogaidd yn rhan o’u casgliad – maen nhw yn siŵr o ddenu ac apelio at gynulleidfa eang. Mi fydd eu perfformiad yn ffordd wych o ddathlu ein wythnos yn Sir Benfro."


Carcharu dyn o Fangor am gludo cocên
Aldi i greu 40 o swyddi ym Mhorthaethwy?
Caergybi: arestio dyn wedi ymosodiad honedig
Cytundeb newydd ar gyfer adweithydd Wylfa
Bangor: rhybudd ar ôl cynnydd mewn lladradau