Turn olwynion yn agor yng Nghaergybi

Friday, 17 October 2025 16:54

By Ystafell Newyddion MônFM

TC

Mae turn olwyn newydd i wella dibynadwyedd trenau wedi'i agor yn swyddogol yng Nghaergybi.

Mae'r turn awtomatig – offeryn cynnal a chadw pwysig sy'n gallu trwsio olwynion sydd wedi gwisgo neu wedi'u difrodi – wedi costio £10.5 miliwn i'w adeiladu fel rhan o rhaglen i wella gwasanaethau rheilffordd yng Ngogledd Cymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, ni fydd angen i drenau yn y Gogledd deithio i'r turn bresennol yn Nhreganna, Caerdydd mwyach – sy'n golygu y bydd fflyd gyfan o drenau Trafnidiaeth Cymru yn cael eu cynnal a'u gwasanaethu'n gyflymach.

Dyweddod ysgrifennydd trafnidiaeth, Ken Skates: "Mae'n wych gweld ein turn olwynion newydd o'r safon uchaf yng Nghaergybi yn agor ac yn barod ar gyfer busnes."

"Y buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd hwn yw'r garreg filltir ddiweddaraf yng ngweledigaeth Rhwydwaith Gogledd Cymru ar gyfer system trafnidiaeth gyhoeddus well."

"Bydd ein cyfleuster newydd yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos, gan leihau'n sylweddol yr amseroedd trwsio i drenau fod yn ôl ar waith a gwneud yn siŵr fod pobl yn gallu cyrraedd lle maen nhw'n mynd gyda llai o darfu."

Mae wyth swydd wedi cael eu creu yn nepo Trafnidiaeth Cymru yng Nghaergybi o ganlyniad i'r cyfleuster newydd.

Mae'r prosiect wedi'i gwblhau ar amser cyn tymor prysur yr hydref, pan fydd dail sy'n cwympo yn gwneud olwynion wedi'u cynnal yn dda hyd yn oed yn bwysicach.

Dywedodd Ryan Williams, cyfarwyddwr peirianneg Trafnidiaeth Cymru: "Mae'r cyfleuster newydd hwn yn gam mawr ymlaen gan sicrhau bod ein fflyd o drenau ar gael yn gynt, yn enwedig wrth i ni fynd i fisoedd anoddach yr hydref a'r gaeaf."

"Bydd yn ein helpu inni redeg yn fwy effeithlon, cryfhau ein galluoedd cynnal a chadw mewnol ymhellach, ac yn dangos ein hymroddiad i ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau."

"Mae hefyd yn garreg filltir allweddol wrth wneud gweithrediadau'n fwy effeithlon ar draws Gogledd Cymru, gan dynnu sylw at ein ffocws parhaus ar ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth o'r safon uchaf ar gyfer y rhanbarth."

Mae'r turn olwyn wedi'i hadeiladu a'i ddanfon gan y cwmni adeiladu Balfour Beatty.

Ychwanegodd Alasdair MacDonald, cyfarwyddwr gweithredol: "Mae agor turn olwynion Caergybi yn garreg filltir arwyddocaol nid yn unig i Drafnidiaeth Cymru, ond i seilwaith rheilffyrdd ledled Gogledd Cymru."

"Y cyfleuster hwn yw'r cyntaf i gael ei ddarparu o dan strategaeth rhwydwaith Gogledd Cymru y llywodraeth a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal a chadw'r fflyd newydd o drenau."

"Rydym yn falch o fod wedi cyflawni prosiect sy'n cyfuno rhagoriaeth dechnegol ag effaith weithredol hirdymor, gan gefnogi teithiau llyfn, llai o oedi, a rhwydwaith rheilffyrdd mwy gwydn ar gyfer y rhanbarth."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Cordia

    5:00pm - 7:00pm

    Dechreuwch eich nos Sadwrn gyda cherddoriaeth a sgwrs gan ferched Cordia

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'