Bydd treth y cyngor ar Ynys Môn yn cynyddu 5.1% fel rhan o'r gyllideb flynyddol.
Cytunodd y cynghorwyr ar eu cynlluniau gwariant ar gyfer 2026-27 ddydd Iau gyda'r nod o gynnal gwasanaethau hanfodol.
Yn ôl y cyngor sir, er fod setliad terfynol Llywodraeth Cymru yn well na'r disgwyl - nid oedd yn ddigon i dalu am y costau cynyddol ac fe adawodd fwlch ariannol sylweddol.
Bydd arian wrth gefn hefyd yn cael ei wario i amddiffyn gwasanaethau hynny sy'n parhau i wynebu galw sylweddol a phwysau chwyddiant, yn enwedig ym meysydd addysg a gofal cymdeithasol.
Ar gyfer cartref Band D ar Ynys Môn, bydd yr codiad treth yn golygu cynnydd blynyddol o £87.03 neu tua £1.67 yr wythnos - ond mae'r cyngor yn mynnu ei fod yn parhau i fod yn is na chyfartaledd Cymru ac mae'r isaf yng ngogledd Cymru.
Mae canran y cynnydd yn debyg i'r cynnydd cyfartalog yng Nghymru a'r cynnydd sydd wedi'i weld ar draws awdurdodau eraill.
Bydd y cyngor hefyd ddefnyddio £1.685m o arian wrth gefn er mwyn helpu cydbwyso'r gyllideb ac osgoi toriadau llymach i'w wasanaethau rheng-flaen.
Dyweddod arweinydd y cyngor, Gary Pritchard: "Mae'r gyllideb yma'n amddiffyn y pethau pwysicaf - ein hysgolion, ein gwasanaethau gofal a'n cymunedau."
"Rydym yn deall y pwysau sy'n wynebu cartrefi ond mae gennym hefyd gyfrifoldeb i amddiffyn y gwasanaethau rheng-flaen hynny y mae trigolion Môn yn dibynnu arnynt o ddydd i ddydd."
"Heb y cynnydd hwn yn y dreth gyngor, byddai mwy o doriadau i wasanaethau lleol hanfodol wedi bod yn anorfod."
"Credaf ei bod yn gyllideb gyfrifol sy'n sicrhau ein bod yn gallu bodloni'r costau cynyddol, diogelu'r rhai mwyaf bregus a chadw'r Cyngor mewn sefyllfa sefydlog yn ariannol ar gyfer y dyfodol."
Ychwanegodd cyfarwyddwr adnoddau y cyngor, Marc Jones, fod y gyllideb ar gyfer 2026/27 yn un gadarn ac yn un a oedd yn cyd-fynd â blaenoriaethau'r cyngor ac yn sichrau bod gan bob gwasanaeth adnoddau digonol er mwyn gallu ymdopi â'r galw presennol.
Bydd y gyllideb sydd wedi'i chymeradwyo hefyd yn sicrhau bod ysgolion yn derbyn y cyllid angenrheidiol er mwyn gallu ymdopi â'r pwysau a wynebir o ganlyniad i chwyddiant ac er mwyn ariannu'r cynnydd yn y nifer o blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Bydd dros £1.2 miliwn yn cael ei wario ar wasanaethau statudol llai sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â gofynion gweithredol.


Dyn o Fangor yn cyfaddef delio cyffuriau
Caergybi: arestio dau mewn cyrchoedd cyffuriau
Bangor: cau siop am werthu tybaco anghyfreithlon
Niwbwrch: ystâd newydd bron â'i chwblhau
Y Gân yw Cân i Gymru 2026