Mae'r rhestr lawn o ymgeiswyr wedi'i chadarnhau ar gyfer etholiadau'r Senedd yn etholaeth Bangor Conwy Môn.
Bydd 42 o ymgeiswyr yn cynrychioli deg plaid yn sefyll yn yr uwch-etholaeth newydd, a fydd yn cael ei chynrychioli gan chwe aelod.
Mae Bangor Conwy Môn wedi'i ffurfio o etholaethau presennol Ynys Môn ac Aberconwy a rhannau o ardaloedd Arfon a Gorllewin Clwyd.
Mae'r ardal yn cael ei chynrychioli gan ddau AS ar wahân yn San Steffan - yn etholaethau Ynys Môn a Bangor Aberconwy.
Bydd gan Gymru 16 o etholaethau newydd yn lle 40 fel rhan o ddiwygiadau eang a bydd gan bob etholaeth newydd chwe aelod, sy’n golygu y bydd cyfanswm o 96 aelod yn cael eu hethol i’r Senedd.
Mae'r pedwar rhanbarth etholiadol yn cael eu diddymu, gan gynnwys Gogledd Cymru.
Hefyd, bydd y ffordd y byddwch chi’n pleidleisio yn newid. Enw’r system bleidleisio newydd yw’r 'system rhestr gyfrannol gaeedig'. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n pleidleisio dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol, yn hytrach na phobl unigol.
Bydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor ddydd Iau 7 Mai rhwng 7yb a 10yh gyda'r cyfrif yn digwydd y diwrnod canlynol.

Bangor Conwy Môn
Plaid Gomiwnyddol Prydain
- Jaime Fitter
Ceidwadwyr Cymreig
- Janet Finch Saunders
- Harry Saville
- Martin Peet
- Sam Cotton
- David Ashworth
- Lucy Samuel
Plaid Treftadaeth
- Mark Edwards
Plaid Cymru
- Rhun ap Iorwerth
- Mair Rowlands
- Elfed Williams
- Dyfed Jones
- Nia Clwyd Owen
- Vivek Thuppil
- Lisa Elfyn Butler
- Beca Roberts
Plaid Werdd Cymru
- Tomos Barlow
- Linda Rogers
- Nick Bounds
- Francis Cookson
- Vanessa Hall
- David Bunker
Reform UK Cymru
- Helen Jenner
- John Clark
- Richard John Jones
- Andrew Winston-Jones
- Craig Jones
- Dafydd Wyn Thomas
Plaid Lafur Sosialaidd
- Kathrine Jones
Parti Swyddogol Monster Raving Loony
- Sir Grumpus L Shorticus
Llafur Cymru
- Joanna Stallard
- Emily Owen
- Margaret Lewis
- Rebecca Gibbons
- Huw Jones
- Natasha Jose
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
- Leena Sarah Farhat
- David McBride
- Mark Rosenthal
- Rob Atenstadt
- Sarah Jackson
- Preben Vangberg


Agor cwest i farwolaeth gyrrwr ifanc
Senedd 2026: ymgeiswyr Gwynedd Maldwyn
Cadwraeth 'dros y dibyn' ym Mhen Llŷn
Ymchwiliad i gyffuriau ym Mhlas Glynllifon
Rhybudd ar ôl tirlithriad ar draeth Nefyn