Mae cyn-bêl-droediwr o Landdona wedi cael ei gyhuddo o ymosod yn dilyn gêm gynghrair.
Mae Thomas Taylor, 36 oed, wedi’i gyhuddo o ymosod gan achosi niwed corfforol gwirioneddol yn ystod gêm Gynghrair Ardal rhwng Porthmadog a Bae Trearddur yn Y Traeth ym mis Ionawr.
Mewn datganiad, dwyeddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Yn dilyn cyflwyno ffeil achos i Wasanaeth Erlyn y Goron, mi dderbyniodd swyddogion awdurdodaeth ar gyfer cyhuddo dyn yn gysylltiedig â digwyddiad."
Cafodd blaenwr Porthmadog, Danny Brookwell, driniaeth yn yr ysbyty am gyfergyd yn dilyn yr ymosodiad honedig.
Mae Taylor, sydd wedi gadael CPD Bae Trearddur ers hynny, hefyd yn gwasanaethu gwaharddiad CBDC o bob gweithgaredd pêl-droed tra bo canlyniad ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Llun 11 Mai.


Doreen Morris: rhyddhau pedwar dan ymchwiliad
Prif Weinidog yn cofio ei fam
Cyngor i fabwysiadu cynllun atal hunanladdiad
Benllech: arestio tri ar ôl llosgi bwriadol
Ymosodiad ar mamog yn Ninas Dinlle