Mae bwi monitro a ddefnyddiwyd fel rhan o gynllun ynni llanw Morlais oddi ar arfordir Caergybi wedi cael ei symud ar ôl dwy flynedd.
Mae'r Marinus wedi cael ei ddefnyddio ers 2024 i olrhain mamaliaid ac adar fel rhan o Brosiect Ymchwil Nodweddu Morol (MCRP) dan arweiniad Menter Môn.
Ymhlith ei gyflawniadau allweddol, mae bwi wedi recordio gweithgaredd dolffiniaid gan ddefnyddio cyfuniad arloesol o dechnolegau monitro am y tro cyntaf gan gynnwys technoleg dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial.
Yr wythnos diwethaf, cafodd bwi Marinus ei dynnu i ffwrdd ar ddiwedd y cyfnod o gasglu data cyn i dyrbinau llanw gael eu gosod ym mharth Morlais.
Mae disgwyl i’r dyfeisiau ynni llanw cyntaf gael eu gosod yn y môr oddi ar arfordir Ynys Cybi a dechrau cynhyrchu trydan glân o 2027.
Dywedodd Helen Roberts, rheolwr prosiect amgylchedd a chydymffurfiaeth Menter Môn: "Rydyn ni’n falch ein bod wedi gallu dod â’r Marinus i ogledd Cymru a gweithio gyda’n partneriaid i ddefnyddio technoleg monitro a allai hwyluso’r broses o sicrhau caniatâd i gynlluniau fel Morlais yma yn y DU a thu hwnt."
"Yn bwysicach, bydd y data rydyn ni wedi ei gasglu yn helpu i sicrhau bod modd gosod a defnyddio dyfeisiau ynni llanw ym mharth Morlais yn ddiogel fel rhan o’n hymrwymiad i amddiffyn bywyd gwyllt."
"Rydym wedi defnyddio technoleg sonar ac acwstig a deallusrwydd artiffisial yma, ynghyd ag offer arloesol nad oes unrhyw gynllun arall wedi dreialu o’r blaen."
"Rydym bellach yn canolbwyntio ar y cam nesaf ac yn gobeithio gallu addasu’r offer a’r fethodoleg sydd wedi ei dreialu yma i’w defnyddio’n ehangach, gan gynnwys mewn cynlluniau ynni gwynt yn y môn a diwydiannau eraill sy’n ceisio deall a lleihau eu heffaith ar fywyd gwyllt morol."
"Rydym yn edrych ymlaen rŵan at adeiladu ar waddol yr ymchwil a’r gwaith rydym wedi ei wneud hyd yma."
Yn ôl Menter Môn, bydd y data a gesglir gan y Marinus - ac a rennir gyda chyfnewidfa data morol Ystad y Goron - yn ganolog i’r gwaith o ddiogelu bywyd gwyllt wrth i gynllun ynni llanw Morlais symud yn ei flaen.


Eryri: pryder cynyddol am gerddwr ar goll
Enw 'Gwyndod' ar gyfer orsaf newydd Wylfa
Gwedd newydd i Gŵyl Felin
Mwy o gadeiriau olwyn ar draethau Môn
'Neges mewn Potel' ar gael yng Ngwynedd