Mae Plaid Cymru wedi cadw sedd yn ward Bro'r Llynnoedd ar Gyngor Môn yn dilyn isetholiad.
Etholwyd Jon Paul Taylor i'r sedd wag gyda 551 o bleidleisiau yn y bleidlais ddydd Iau - mwyafrif o 105 dros ymgeisydd Reform UK, Richard John Jones, sydd yn ail safle.
Dyma'r canlyniad llawn:
- Jon Paul Taylor (Plaid Cymru): 551
- Richard John Jones (Reform UK Cymru): 446
- Margaret Fredericka John (Ceidwadwyr Cymreig): 93
- Nick Bounds (Plaid Werdd Cymru): 45
Mae ward Bro'r Llynnoedd hefyd yn cael ei chynrychioli ar y cyngor gan y Cynghorydd Gwilym O Jones o'r Grŵp Annibynnol.
Dyma oedd yr ail isetholiad ar y cyngor eleni a'r cyntaf ers etholiad y Senedd ym mis Mai, lle ffurfiwyd Llywodraeth Cymru leiafrifol gan Plaid.
Gyda llai na blwyddyn i fynd cyn etholiadau’r cyngor, mae Plaid yn cadw rheolaeth gyffredinol gyda 18 sedd, gyda saith sedd yn cael eu dal gan grŵp Annibynwyr Môn, pedair sedd i’r Grŵp Annibynnol, tair sedd i Lafur Cymru a dwy sedd gan gynghorwyr annibynnol.


A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir
Carcharu dyn wedi ymosodiad rhywiol ar ferch
A55: cyhuddo dyn ar ôl gyrru y ffordd anghywir
Ffair yn dathlu treftadaeth Ynys Cybi
Tacsi wedi'i ddwyn a'i yrru ar ochr anghywir yr A55