Pentraeth: dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad

Monday, 26 January 2026 00:57

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae dyn 29 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ger Pentraeth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A5025 rhwng Pen-y-garnedd a safle delwriaeth Pentraeth Automotive toc wedi 6.45yb bore Sul.

Y ddau gerbyd yn y gwrthdrawiad oedd car Peugeot 208 llwyd ac Audi A5 Quattro aur.

Bu farw gyrrwr y Peugeot yn y fan a'r lle ac mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod.

Fe gafodd gyrrwr 22 oed y Audi ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Bu’r ffordd ar gau am bron i naw awr cyn ailagor brynhawn Sul.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar dystion neu unrhyw un sydd â lluniau camera dangosfwrdd i ddod ymlaen.

Dyweddod Ditectif Rhingyll Katie Davies o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: "Rwy'n rhannu fy nghydymdeimlad dwysaf â theulu'r dyn yn ystod yr amser anodd hwn."

"Rwy'n apelio ar unrhyw un a oedd yn gyrru ar hyd yr A5025 tua 6:30yb ddydd Sul, ac a allai fod wedi gweld y digwyddiad - neu a allai fod â lluniau dashcam perthnasol - i gysylltu cyn gynted â phosibl."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ewch i'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000067199.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Brecwast MônFM gyda Dai Sinclair

    7:00am - 10:00am

    Bore da! Cychwynnwch eich diwrnod gyda Dai Sinclair ar MônFM. Cerddoriaeth, newyddion lleol, y diweddaraf i deithwyr, a llawer mwy!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'