
Mae cyn-siop ym Mhenygroes a oedd yn wag am flynyddoedd wedi cael ei drawsnewid yn ganolfan gymunedol ffyniannus sydd bellach yn gyfleuster hanfodol i bobl Dyffryn Nantlle.
Mae'r Orsaf yn gyfleuster amlbwrpas sy'n cynnwys caffi, swyddfeydd a llety.
Mae bellach yn cynnig ystod eang o wasanaethau, megis trafnidiaeth gymunedol gan ddefnyddio cerbydau trydan, gweithgareddau i bobl hŷn, caffi trwsio misol, gweithdai digidol i bobl ifanc, a phrosiectau bwyd a lles gan gynnwys pantri cymunedol.
Mae'r gwasanaethau hyn a gaiff eu rhedeg gan staff a gwirfoddolwyr yn cefnogi pobl leol o bob oedran, yn lleihau unigrwydd ac yn gwella bywyd bob dydd.
Dyweddod Ben Gregory, un o weithwyr yr Orsaf: "Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru."
Mae'r gweithgareddau yn yr adeilad yn amrwyio o glwb codio i gartref dros dro i'n pantri bwyd, o sesiynau cerddoriaeth i bobl ifanc i'n clwb ffilm llwyddiannus a gafodd ei enwebu eto eleni ar gyfer gwobr Into Film."
"Mae'r adeilad wedi'n helpu ni i roi profiadau gwerthfawr iawn i blant a phobl ifanc, ac mae'r cyfleodd yn parhau i dyfu."
Caeodd Siop Griffiths, un o fusnesau hynaf y pentref, yn 2010 ar ôl bron i ganrif o wasanaeth.
Ar ôl bod yn wag am sawl blwyddyn, dirywiodd yr adeilad ac roedd yn wynebu dyfodol ansicr. Mewn ymateb, lansiodd gwirfoddolwyr lleol ymgyrch codi arian, gan brynu'r adeilad yn 2016, ac ehangu'r safle yn 2019.
Gyda dros £155,000 o gyllid o raglen cyfleusterau cymunedol gan Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr ag arian a godwyd o fewn y gymuned a thrwy ffynonellau eraill, gwireddwyd uchelgais gwirfoddolwyr lleol gan greu gofod sy'n dod â phobl at ei gilydd a gwella bywyd bob dydd.
Ychwanegodd Jane Hutt, ysgrifennydd dros gyfiawnder cymdeithasol, a ymwelodd â'r Orsaf yn gynharach eleni: "Yr hyn sy'n fy nharo i fwyaf am Yr Orsaf yw sut mae'n gyfleuster sy'n wirioneddol berthyn i'r gymuned."
"Mae'r angerdd a'r ymroddiad a welais yn dangos yn union pam ein bod ni'n credu mewn cefnogi cyfleusterau llawr gwlad fel hyn. Pan fyddwn ni'n buddsoddi mewn llefydd fel Yr Orsaf, rydyn ni'n buddsoddi yng nghuriad calon ein cymunedau."