Llanfrothen: arestio dau yn dilyn ymosodiad difrifol

Monday, 8 September 2025 17:37

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Bill Boaden)

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio yn dilyn ymosodiad ger tafarn yn Llanfrothen.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r ardal ger y Brondanw Arms, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Y Ring, tua 11yh ar nos Sadwrn 30 Awst, yn dilyn adroddiadau o ymosodiad a arweiniodd at anafu un dyn yn ddifrifol.

Mae dyn 61 oed a dyn 40 oed wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth gydag amodau.

Yn ôl ditectifs, mae'n bosibl bod y digwyddiad wedi'i ffilmio ar ffôn symudol.

Dywedodd PC Aled Morris o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ymchwiliadau i'r digwyddiad hwn yn parhau ac rwy'n apelio ar unrhyw un a welodd yr ymosodiad i gysylltu â ni."

"Yn ogystal, credwn y gallai'r digwyddiad hwn fod wedi'i ffilmio ar ffôn symudol, felly apeliwn ar unrhyw un sydd â thystiolaeth ar ffilm i gysylltu â ni trwy ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu cyfeirnod 25000720697."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Saturday Breakfast with Paul Hughes

    8:00am - 11:00am

    Join Paul as he kick-starts the weekend across Anglesey and Gwynedd! He's got great songs and local information to start your morning.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'