Llanfaelog: apêl yn dilyn ymlid beic modur

Monday, 23 March 2026 14:47

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae'r heddlu'n apelio yn dilyn ymlid yn cynnwys dau berson ar feic modur yn ardal Llanfaelog.

Toc cyn 3.45yp ddydd Iau diwethaf, fe wnaeth swyddog ar feic modur heddlu heb ei farcio ymlid beiciwr gwrywaidd a theithiwr piliwn benywaidd ar feic modur Kawasaki gwyrdd ar ôl iddyn nhw fethu â stopio i'r heddlu.

Digwyddodd yr ymlid rhwng 3.44 a 4pm ar hyd yr A4080 gan fynd i mewn i Lanfaelog ac yna i mewn i Rosneigr.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn awyddus i siarad â gyrwyr tri cherbyd yn yr ardal.

Dyweddod PC Philip Owen o'r Uned Trosdedda Ffyrdd: "Roedd sawl gyrrwr yn dyst i'r ymlid a dwi'n awyddus iddyn nhw ddod ymlaen."

"Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn siarad hefo gyrrwr Dacia gwyrdd a oedd yn teithio trwy Fryngwran tuag at Treban am 3.37yp, gyrrwr Ford Puma glas yn gadael Rhosneigr am Lanfaelog am 3.45yp a gyrrwr Porsche Cayman S."

"Os 'da chi'n credu mai chi ydy perchennog un o'r cerbydau uchod, cysylltwch hefo'r heddlu. Yn ogystal, dwi hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd hefo camera cerbyd o'r beic modur cyn neu yn ystod yr ymlid i gysylltu hefo ni."

Mae swyddogion hefyd yn apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A5 trwy Fryngwran tuag at Groesffordd Treban, yna rhwng Engedi a Rhosneigr, a'r A4080 yn Llanfaelog ac a welodd y beic modur Kawasaki.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000222882.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Gwyl y Fenai

    5:00pm - 8:00pm

    Sgyrsia a cherddoriaeth gyda Kev Bach a Rheinallt Davies yn fyw o Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy,

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'