
Mae Ysgol Gyfun Llangefni wedi ennill gwobr genedlaethol am gefnogi disgyblion sy’n delio â thrawma.
Ers 2023, mae Cyngor Ynys Môn wedi bod yn gweithio tuag at ddod yn Ynys sy'n Wybodus am Drawma drwy fabwysiadau dull sefydliadol i hyrwyddo cysylltiadau a pherthnasau i gefnogi'r rheiny sy'n cael trafferth ymdopi â phrofiadau niweidiol neu drawma yn eu bywydau.
Mae'r nawdd ariannol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) wedi bod yn hanfodol o ran hyfforddi staff a'r gymuned ehangach.
Mae hyfforddiant wedi cael ei ddarparu i ysgolion, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Adran Addysg a phartneriaid cymunedol yr Ynys yn ogystal er mwyn sicrhau bod effaith aruthrol trawma yn cael ei gydnabod a'i gynnwys mewn ymarferion a pholisïau i hyrwyddo diogelwch, grymuso a gwella.
Yr wythnos diwethaf cynhaliwyd digwyddiad arbennig, gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, ym Mharc Gwyddoniaeth Menai, Gaerwen, i ddathlu siwrnai'r Ynys hyd yma tuag at ddod yn ynys sy'n Wybodus am Drawma.
Un o'r uchafbwyntiau oedd enwi Ysgol Gyfun Llangefni fel yr ysgol uwchradd prif lif gyntaf yn y DU i dderbyn y wobr Ysgol sy'n Wybodus am Drawma ac Iechyd Meddwl (Ysgolion Gwybodus am Drawma'r DU (TISUK)).
Yn ei adroddiad dywedodd y TISUK bod yr ysgol yn cynnig amgylchedd diogel a gofalgar lle mae pob plentyn yn cael ei annog a'i gefnogi i lwyddo a theimlo'n hapus a diogel yn yr ysgol.
Mae'r disgyblion yn teimlo'n hapus, eu bod yn cael eu cefnogi a bod yr ysgol yn gynhwysol; 'fel cymuned'.
Derbyniodd y pennaeth, Huw Davies y wobr gan gyfarwyddwr TISUK Cymru, Dr Coral Harper.
Dywedodd Fôn Roberts, cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Môn: "Fel Ynys sy'n Wybodus am Drawma, gallwn gefnogi ein plant a phobl ifanc a chynnig y cyfleoedd gorau iddynt."
"Bydd hyn yn eu galluogi i dyfu i fod yn oedolion ifanc, rhieni ac aelodau cyflawn, cadarn a gwydn o'u cymuned."
"Mae nifer ohonynt wedi dioddef trawma, ond bydd ein gwaith yn sicrhau nad yw hyn yn eu rhwystro rhag dysgu a byw bywyd hapus a llwyddiannus."
Yn ôl yr adroddiad TISUK ar Ysgol Gyfun Llangefni: "Mae perthnasau positif yn bodoli rhwng yr oedolion a'r disgyblion, ac mae oedolion ar gael yn emosiynol i'r disgyblion ac maent yn gwybod at bwy y gallant droi os oes angen neu os ydynt yn dymuno."
"Mae'r ysgol yn cael ei harwain gan dîm o uwch reolwyr sy'n angerddol, gofalgar a chynhwysol; mae eu gwerthoedd yn canolbwyntio ar y plentyn ac maent yn cael eu rhannu'n eang â rhanddeiliaid yr ysgol."
"Mae parodrwydd yr ysgol a natur gefnogol y staff i roi dulliau gwybodus am drawma ar waith i gefnogi cyfarwyddyd yr ysgol yn glir. Mae'r ysgol wedi gwneud yn siŵr bod gan staff ddealltwriaeth o'r model a'u bod yn gwybod sut i'w ddefnyddio i gefnogi pob dysgwr."
"Mae'r disgyblion yn glod iddyn nhw eu hunain, a'r ysgol ac uchafbwynt yr ymweliad oedd siarad â grŵp o ddisgyblion o bob grŵp oedran - roedd pob un yn hyfedr, dymunol ac yn bobl ifanc gydag uchelgais a dyheadau."
Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, sy'n gyfrifol am y portffolio plant a theuluoedd: "Roedd yn fraint cael mynychu'r gynhadledd yn M-Sparc yr wythnos diwethaf i rannu ein profiadau a'r hyn yr ydym wedi'i ddysgu wrth ddod yn ynys sy'n Wybodus am Drawma."
"Roedd hefyd yn braf gweld staff a disgyblion Ysgol Gyfun Llangefni yn cael eu gwobrwyo am osod esiampl ar lefel genedlaethol yn y maes hwn."