Mae cae astro cymunedol newydd wedi'i agor mewn ysgol yn Y Bala, yn dilyn gwaith adnewyddu sylweddol.
Cynhaliodd aelodau ieuengaf Clwb Hoci Y Bala eu sesiwn hyfforddi gyntaf ar yr arwyneb newydd i nodi'r agoriad swyddogol ar safle Ysgol Godre'r Berwyn.
Ar ôl blynyddoedd o ddefnydd gan yr ysgol, y gymuned a chlybiau chwaraeon, roedd y cae gwreiddiol wedi cyrraedd diwedd ei oes.
Ym mis Ebrill, cwblhawyd uwchraddiad gwerth £250,000, gan ddarparu arwyneb modern sy'n addas i amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon, llifoleuadau LED newydd, ac offer pwrpasol fel goliau ac offer cynnal a chadw.
Meddai Lynda Williams, cadeirydd Clwb Hoci Y Bala: "Mae cael agor y cae astro newydd yn swyddogol yn ddiwrnod hynod o falch i ni fel clwb, mae'r buddsoddiad yma'n golygu y bydd cyfleoedd i chwarae hoci yn medru parhau yn ardal y Bala am flynyddoedd i ddod, ac mae gweld cynifer o chwaraewyr dan 10 arno yn y sesiwn swyddogol cyntaf yn rhoi gobaith i ni fod dyfodol llewyrchus i'r clwb."

Cafodd y prosiect ei wneud yn bosibl trwy bartneriaeth rhwng Clwb Hoci Y Bala, Ysgol Godre'r Berwyn, Cyngor Gwynedd a Hoci Cymru gyda chyfraniadau hael gan Chwaraeon Cymru drwy ei Grŵp Cydweithredol Chwaraeon ar Gaeau, a wnaed yn bosibl gyda chyllid Llywodraeth Cymru; Cronfa Cymunedau Eryri (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri); Cronfa Cefnogi Adfywio Cymunedau (Cyngor Gwynedd) a Nuclear Restoration Services.
Yn ogystal, cyfrannodd clybiau chwaraeon lleol, cynghorau tref a chymuned, busnesau ac unigolion i'r prosiect, gyda hyd yn oed aelodau ieuengaf y clwb hoci yn codi arian trwy werthu breichledau wedi'u gwneud â llaw.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, sy'n cynrychioli ardal Y Bala: "Mae'r cae astro newydd sbon yma'n dangos gwir fuddion gweithio mewn partneriaeth er lles ein cymuned."
"Dylai pawb a gyfrannodd deimlo'n wirioneddol falch o'u gwaith caled a'u hymrwymiad i wireddu'r cynllun uchelgeisiol yma."
Ychwanegodd prif weithredwr Hoci Cymru, Paul Wapham: "Mae'r cydweithrediad hwn, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac ymdrechion ar y cyd gan Gyngor Gwynedd, Hoci Cymru a Chwaraeon Cymru, yn gam arwyddocaol tuag at ein gweledigaeth i 'danio angerdd dros hoci' ledled Cymru, gan greu mannau cynhwysol sy'n caniatáu i 'bawb ennyn diddordeb, cystadlu a pherfformio."
Bwriedir creu gofod storio newydd a gosod cysgodfeydd timau newydd dros y misoedd nesaf er mwyn cwblhau'r cynllun.
Dywedodd Owen Hathway, cyfarwyddwr cynorthwyol yn Chwaraeon Cymru: "Gan ddefnyddio cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, rydym yn gweithio ar y cyd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Hoci Cymru i wneud yn siŵr ein bod yn buddsoddi yn y mathau cywir o gaeau artiffisial yn y rhannau cywir o Gymru i ddiwallu'r galw."
"Yn sicr, roedd y prosiect yma'n un sy'n werth ei gefnogi gan y bydd yn ased gwych i'r gymuned leol."


Carcharu dyn am dreisio dynes tra roedd hi'n cysgu
Gwobr genedlaethol am fenter realiti rhithwir
Dynes ifanc wedi marw yng Ngŵyl Tonnau
Gweinidog yn agor estyniad Ysgol y Graig
Ymgeisydd annibynnol yn ennill isetholiad Llanrug