Mae gwasanaethau plant ar Ynys Môn yn wynebu 'pwysau gwirioneddol a chynyddol' a chynyddol sy'n deillio o alw cynyddol, yn ôl arolygwyr.
Ond mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn dweud bod y galw cynyddol yn rhoi pwysau ar y gweithlu - ac yn ôl arolwg, roedd llai na hanner yr ymatebwyr (45%) a ddywedodd eu bod yn ei chael hi'n hawdd cysylltu â gwasanaethau.
Mae Cyngor Ynys Môn wedi croesawu’r adroddiad yr arolygiad.
Dwyeddod Fôn Roberts, cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol: "Yn naturiol, rydym yn falch fod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cydnabod cynifer o agweddau cadarnhaol yn ystod y gwiriad sicrwydd diweddar."
"Mae cydnabod ein gweithlu ymroddedig, arweinyddiaeth gref, ein hymrwymiad i arferion gwybodus am drawma a pha mor gryf mae lleisiau plant yn arwain ar ein gwaith yn cael ei groesawu'n fawr."
"Mae yna feysydd i'w gwella wrth gwrs, ac rydym eisoes yn edrych arnynt i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu'r canlyniadau gorau posib i blant a theuluoedd."
"Bydd y cyngor sir yn mynd ati yn awr i ddatblygu cynllun gweithredu i gyd-fynd ag argymhellion AGC ac yn parhau i weithio'n agos â phartneriaid i sicrhau gwelliannau pellach."
Roedd y cryfderau allweddol a nodwyd yn cynnwys:
- Mae lleisiau plant yn gryf yn y rhan fwyaf o gofnodion, a chefnogir hyn gan ymarfer sy'n canolbwyntio ar bobl ac yn seiliedig ar gryfderau.
- Mae nifer uchel o ymarferwyr sy'n siaradwyr Cymraeg yn sicrhau fod gwasanaethau'n cael eu darparu yn newis iaith plant a theuluoedd.
- Mae model gwybodus am drawma yr awdurdod wedi hen sefydlu ac mae un ysgol uwchradd wedi ennill statws gwybodaeth am drawma cenedlaethol.
- Mae'r Hwb Cymorth Cynnar a llwybrau ataliol yn darparu cefnogaeth amlasiantaethol amserol.
- Mae partneriaethau cryf, gan gynnwys datblygu Cartrefi Clyd, yn gwella canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal yn lleol.
Nodwyd meysydd i'w gwella hefyd, y mae'n rhaid i'r cyngor sir eu cryfhau, gan gynnwys:
- Sicrhau fod eiriolaeth ffurfiol yn cael ei gynnig yn gyson.
- Gwella cysondeb o ran cofnodi lleisiau plant ac adnabod gofalwyr di-dâl.
- Mynd i'r afael ag oedi a achosir gan gynnydd yn y galw a phwysau ar y gweithlu.
- Gwreiddio'r fframwaith sicrhau ansawdd a sicrhau fod cynlluniau'n cynnwys canlyniadau SMART.
Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfed Jones, sy'n dal y portffolio plant a theuluoedd: "Rydym yn hynod o falch fod AGC yn cydnabod fod plant a theuluoedd ar Ynys Môn yn cael eu cefnogi'n dda iawn gan ein tîm gofalgar ac ymrwymedig."
"Mae gofal cymdeithasol a llesiant yn gonglfeini Cynllun y Cyngor 2023-28. Mae rhoi lle blaenllaw i iechyd, llesiant a diogelwch ein plant a phobl ifanc yn allweddol er mwyn eu helpu i fyw bywyd da ar Ynys Môn."
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys Arolygiaeth Gofal Cymru, i sicrhau fod ein plant a phobl ifanc yn ddiogel a'u bod yn gallu ffynnu."
Dwyeddod llefarydd ar ran Arolygiaeth Gofal Cymru: "Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn a'u gwella."
"Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol."
"Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn rhannu'r gwersi a ddysgwyd a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru."


Gorsedd: Gwisg Werdd i Malachy
Llys yn gorfodi cau siop yng Nghaernarfon
Cyhuddo dyn yn dilyn gyfres o fyrgleriaethau
Dynes goll Porthaethwy wedi ei darganfod
Cyngor yn cefnogi'r ymgyrch Nid Fy Nghywilydd