Rhwng 7am a 1pm bydd traffig yn gallu croesi o Ynys Môn i'r tir mawr, a rhwng 1pm a 7pm bydd traffig yn gallu croesi o'r tir mawr i Ynys Môn.  Rhwng 7pm a 7am bydd signalau traffig arferol ar waith.

Bydd llwybr troed y dwyrain yn parhau i fod ar agor gofynnir i gerddwyr beidio â stopio wrth groesi'r bont a bydd swyddogion yn bresennol trwy gydol y gwaith. Gofynnir i feicwyr wthio'u beiciau wrth ddefnyddio llwybr troed y dwyrain.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd codi'r sgaffaldiau yn golygu gweithgarwch ar y dŵr, gan gynnwys sesiynau profi, dros gyfnod o ddyddiau. Bydd hyn yn dibynnu ar y tywydd."

"Fel rhan o raglen ehangach ddiwygiedig cam 2, ni fydd mesurau rheoli traffig ond ar waith am gyfnodau byr er mwyn gallu cwblhau elfennau allweddol."

"At ei gilydd mae'r cynlluniau diwygiedig wedi lleihau'n sylweddol yr angen i reoli traffig ar y bont, o'i gymharu â'r cynlluniau cynharach, a thrwy hynny bydd llai o darfu ar drigolion, cymudwyr a busnesau."

"Mae hi'n dal i fod yn hanfodol gorfodi'r terfyn pwysau 7.5‑tunnell er mwyn gallu parhau i ddefnyddio'r bont yn ddiogel tra bo'r gwaith yn mynd yn ei flaen."

Bydd gwaith cynnal a chadw ar y bont yn parhau tan wanwyn 2027 fan bellaf, gan fethu addewid i gwblhau'r atgyweiriadau mewn pryd ar gyfer y 200fed pen-blwydd.

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates: "Rwy'n falch bod y gwaith ar y trawstiau croes wedi'i gwblhau'n llwyddiannus."

"Mae'r gwaith nawr yn symud ymlaen i'r cam nesaf a hoffwn ddiolch i drigolion, cymudwyr a busnesau am eu hamynedd a'u cydweithrediad."