Gwaith i helpu i leihau erydiad yn Ninas Dinlle

Tuesday, 17 February 2026 20:42

By Ystafell Newyddion MônFM

CNC

Bydd gwaith hanfodol yn dechrau fis nesaf i leihau erydiad arfordirol yn Ninas Dinlle, ger Caernarfon.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn lleihau uchder y grwyn fel rhan o ymdrechion parhaus i gefnogi prosesau arfordirol naturiol ac i wella symudiad graean ar hyd y draethlin.

Mae'r grwyn yn helpu i reoli erydiad arfordirol trwy arafu symudiad deunydd traeth - fel tywod, cerrig mân a graean - ar hyd y draethlin.

Pwrpas gostwng lefel y grwyn yw caniatáu i’r graean symud yn rhwyddach i'r rhan o’r traeth i'r gogledd o'r strwythurau.

Yn ôl CRC, disgwylir i'r symudiad cynyddol hwn helpu i arafu cyfradd yr erydiad sy'n effeithio ar y rhan honno.

Mae'r gwaith wedi'i gynllunio i aflonyddu cyn lleied ag sydd bosib, ac nid oes angen cau unrhyw lwybrau troed.

Bydd un cloddiwr a lori dympio’n gwneud y gwaith a bydd yn cymryd tua phedwar diwrnod i'w gwblhau. Er y bydd y gweithgaredd i’w weld o fewn y pentref, ni ddisgwylir iddo fod yn ymwthiol.

Dyweddod Keith Evens, rheolwr gweithrediadau rheoli dŵr CNC: "Rydym wedi ymrwymo i reoli’r draethlin yn Ninas Dinlle mewn ffordd sy’n gweithio gyda phrosesau naturiol lle bynnag y bo modd."

"Bydd addasu uchder y grwyn yn helpu i gefnogi symudiad naturiol graean, sy'n chwarae rhan allweddol wrth amddiffyn y glannau rhag erydiad."

"Rydym yn deall y gallai fod gan drigolion lleol gwestiynau, a hoffem sicrhau’r gymuned mai gwaith byrdymor yw hwn, sydd wedi’i gynllunio’n ofalus, a bydd yn cael ei fonitro’n agos i sicrhau’r canlyniad amgylcheddol gorau."

Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd CNC yn monitro'n agos sut mae'r traeth yn ymateb. Os yw gwaith monitro’n dangos bod lleihau maint y grwyn yn cael effaith negyddol ar symudiad graean neu amodau traethau lleol, bydd CNC yn ei adfer i'w lefel bresennol.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    7:00pm - 9:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'