Ffermwr wedi'i ddiarddel am ddioddefaint diangen

Friday, 3 October 2025 17:59

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae ffermwr o Ddyffryn Nantlle a gafwyd yn euog o achosi i ddefaid a chŵn ddioddef yn ddiangen wedi cael ei wahardd rhag cadw anifeiliaid a'i orchymyn i dalu dirwy o £1000.

Plediodd Robert Hughes o Nantlle yn euog i droseddau o dan ddeddfwriaeth lles anifeiliaid.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, cafodd ei wahardd rhag cadw anifeiliad - ac eithrio un ci - am ddeg mlynedd.

Clywodd y llys bod y diffynnydd yn gyfrifol am braidd o rhai cannoedd o ddefaid a nifer o gŵn ar ei fferm ger Nantlle, Penygroes ond nad oedd wedi bod yn gofalu am yr anifeiliaid yn iawn.

Roedd y troseddau'n cynnwys achosi i anifeiliaid ddioddef yn ddiangen a methu â chymryd camau priodol a rhesymol i amddiffyn y praidd rhag poen, dioddefaint, anafiadau a chlefydau.

Cafodd ymchwiliad gan Wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Gwynedd ei sbarduno yn dilyn cwynion gan aelodau o'r cyhoedd ynglŷn â chyflwr a thriniaeth defaid a chŵn a oedd yn cael eu cadw ym Mlaen y Garth.

Ymwelodd swyddogion y Cyngor â'r fferm sawl gwaith yn ystod mis Medi 2024 a chymaint oedd y pryder am iechyd a lles y defaid a'r cŵn, bu'n rhaid i arolygwyr iechyd anifeiliaid, gyda chefnogaeth swyddogion milfeddygol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), ymyrryd.

Gwelwyd bod defaid ar y fferm yn dioddef o gyflyrau fel pydredd traed, clefyd pryfed, parasitiaid mewnol ac allanol. Roedd sawl achos lle cafodd defaid eu ewthaneiddio ar sail lles ar gyngor swyddogion milfeddygol oherwydd eu bod yn dioddef gymaint.

Clywodd y llys mai barn gyffredinol y swyddog milfeddygol oedd bod y defaid a'r cŵn wedi dioddef o ystyried nifer y da byw a oedd wedi marw, cyflwr eu cyrff a'r ffaith nad oedd gofal digonol wedi'i ddarparu.

Clywodd y llys hefyd mai prin oedd cydweithrediad y diffynnydd drwy gydol yr ymchwiliad. Er gwaethaf derbyn cyngor gan swyddogion Cyngor Gwynedd a swyddogion milfeddygol APHA, arweiniodd diffyg ymgysylltiad y diffynnydd yn uniongyrchol at ddioddefaint hirach a gwaeth i'r anifeiliaid.

Oherwydd methiant parhaus y diffynnydd i ddiogelu lles yr anifeiliaid, gweithredodd Cyngor Gwynedd bwerau i gymryd yr anifeiliaid i'w meddiant a threfnwyd triniaeth frys iddynt ar gost gyhoeddus.

Hefyd, daeth swyddogion o hyd i nifer o garcasau defaid a oedd yn dadelfennu a oedd wedi'u gadael heb eu casglu ac yr oedd anifeiliaid a bywyd gwyllt eraill ar y fferm yn medru mynd atynt.

Fel amddiffyniad, nododd y cwnsler fod y diffynnydd wedi pledio'n euog, ei fod wedi dangos edifeirwch a'i fod wedi'i effeithio yn sgil colli ei rieni.

Yn ystod y gwrandawiad, dywedodd y Barnwr fod Mr Hughes wedi methu â chydweithio â'r awdurdodau perthnasol ac fe ddiolchodd i Gyngor Gwynedd am eu gwaith a'u hymchwiliad hir yn dilyn nifer o gwynion ynghylch cyflwr a thriniaeth yr anifeiliaid yn Blaen y Garth.

Yn ogystal â chael ei ddiarddel rhag cadw anifeiliaid, rhoddwyd dirwy o £1000 a gorchymyn i dalu costau o £980.

Yn dilyn y ddedfrydu, dyweddod y Cynghorydd Craig ab Iago, aelod y cabinet Cyngor Gwynedd dros yr amgylchedd: "Mae gan unrhyw un sy'n cadw da byw gyfrifoldeb clir i sicrhau bod eu hanifeiliaid yn cael eu cadw mewn amodau digonol a'u bod yn derbyn y gofal angenrheidiol."

"Mae'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n cadw anifeiliaid amaethyddol yn cymryd eu cyfrifoldeb o ddifrif ac yn gofalu am eu hanifeiliaid."

"Fodd bynnag, lle mae tystiolaeth o ddioddefaint diangen, mae gan ein swyddogion gyfrifoldeb i ymchwilio a chymryd camau gorfodi ffurfiol os oes angen."

Ychwanegodd Claire Thomas, pennaeth cyflenwi maes Cymru, APHA: "Mae'r achos hwn yn adlewyrchu effeithiolrwydd ein hymdrechion gorfodi a'r cydweithrediad cryf rhwng APHA ac awdurdodau lleol."

"Rydym yn croesawu'r canlyniad sy'n anfon neges glir na fydd troseddau o'r fath yn cael eu goddef. Mae pob gweithrediad da byw, waeth beth fo'u maint, yn gyfreithiol rhwym i gynnal safonau uchel o les anifeiliaid."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'