Enwi Eisteddfod 2027: galw am geisiadau

Wednesday, 18 March 2026 16:45

By Ystafell Newyddion MônFM

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi lansio cystadleuaeth i ddod o hyd i enw ar gyfer yr ŵyl yn 2027.

Bydd De Meirionydd – gan gynnwys Dolgellau, Bala, Tywyn, Aberdyfi a'r Bermo – yn rhan o ardal y Brifwyl, gyda'r lleoliad wedi ei gadarnhau ar gyfer gogledd Powys.

Mae’r trefniadau lleol yn prysuro, ac aelodau’r pwyllgor gwaith bellach yn awyddus i ddod o hyd i enw swyddogol.

Mae’r trefnwyr Eisteddfod Genedlaethol yn eisiau sicrhau enw sy’n adlewyrchu cymeriad unigryw’r ardal ac un sy’n creu balchder ymysg cymunedau lleol. 

Dwyeddod Heulwen Davies, is-gadeirydd pwyllgor strategol yr ŵyl: "Rydyn ni’n hynod o falch o allu croesawu’r Eisteddfod yma’r flwyddyn nesaf – mae’r gwaith yn yr ardal wedi hen gychwyn a’r brwdfrydedd yn amlwg."

"Ein gobaith yw dod o hyd i enw fydd yn dal dychymyg pobl ond hefyd yn cyfleu natur unigryw ardal yr ŵyl yn 2027. Dyma gyfle i ddod yn rhan o hanes y brifwyl wrth iddi ymweld â’r ardal."

Mae’r Eisteddfod yn gofyn am enwau gwreiddiol gan bwysleisio bod croeso i bobl o bob cwr o Gymru gyfrannu. Gall cynigion gael eu cyflwyno drwy gwblhau ffurflen sydd ar gael ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol neu anfon ar ebost at gwyb@eisteddfod.cymru.

Y dyddiad cau yw 31 Mawrth, a bydd yr enw buddugol yn cael ei gyhoeddi ar 9 Ebrill. Bydd yr enillydd yn derbyn tocyn wythnos i Faes Eisteddfod 2027 yn wobr.

Yn y cyfamser, cynhelir Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod 2027 yn Llanidloes ddydd Sadwrn 9 Mai. 

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Gwyn Owen

    10:00am - Noon

    Join Gwyn for two hours of music to finish the morning

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'