Mae dau berson wedi cael dirwy am dipio gwastraff yn anghyfreithlon mewn mynwent ger Caernarfon.
Dros y Nadolig, cafodd swyddogion gorfodaeth Cyngor Gwynedd gŵyn am sbwriel yn y fynwent Llanbeblig.
Rhoddwyd cosb o £150 i un o'r unigolion am dorri'r ddyletswydd gofal, hynny yw am ofyn i rhywun nad oedd gyda thrwydded ddilys i gludo gwastraff ar eu rhan.
Cafodd yr unigolyn arall gosb o £180 am waredu'r gwastraff mewn ffordd anghyfreithlon ac am gludo gwastraff heb fod â thrwydded i wneud hynny.
Yn dilyn yr achos, mae arwyddion newydd hefyd wedi'u gosod yn y fynwent i rybuddio'r cyhoedd yn erbyn tipio anghyfreithlon.

Dywedodd y Cynghorydd June Jones, aelod y cabinet dros wasanaethau stryd: "Mae tipio slei bach, gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon a throseddau amgylcheddol eraill yn cael effaith ddifrifol ar ein cymunedau a'n hamgylchedd."
"Ni fyddwn yn goddef gweithredoedd hunanol fel y gwelwyd yn ardal Llanbeblig yn ddiweddar, a byddwn yn defnyddio ein pwerau i roi hysbysiadau cosb benodedig ac, lle bo angen, i erlyn y rhai sy'n gyfrifol."
"Nid oes unrhyw esgus am daflu neu adael ysbwriel. Mae gweithredoedd o'r fath yn gwneud i'n hardaloedd edrych yn flêr, yn peri risgiau i iechyd y cyhoedd, yn llygru'r amgylchedd ac yn niweidio bywyd gwyllt."
"Dwi'n atgoffa pobl fod cyfrifoldeb arnynt i wirio a yw rhywun sy'n gwaredu sbwriel neu glirio tŷ ar eu rhan gyda trwydded i wneud hynny. Mae'r rhan helaethaf o gwmnïau sy'n darparu'r math yma o wasanaeth yn gwneud hynny mewn ffordd gyfrifol a chyfreithlon."
"Ond fel mae'r achos yma yn dangos mae pobl ddi-hid allan yna sy'n fodlon ei waredu mewn ffordd anghyfrifol, a gall hyn arwain at ganlyniadau difrifol i chi."
Ychwanegodd Steven Edwards, rheolwr gwasanaeth gorfodaeth stryd Cyngor Gwynedd: "Rydym yn ddiolchgar iawn i aelodau o'r cyhoedd a gymerodd yr amser i adrodd y digwyddiadau hyn."
"Cofiwch, gall unrhyw un roi gwybod i'r Cyngor am droseddau amgylcheddol drwy'r wefan neu drwy ap apGwynedd."


Bae Cemaes: carcharu dyn am werthu cocên
Bangor: carcharu gwerthwr cyffuriau am dair blynedd
Foden wedi ‘rhwystro’ ymchwiliad yn erbyn athro arall
Carcharu dyn o Amwlch ar ôl darganfod cyffuriau
Bangor: cau pont droed wedi tân bwriadol