
Cafodd plentyn ysgol ei gludo i'r ysbyty ar ôl adrodd ei fod wedi fepio sylwedd anhysbys.
Mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Uwchradd Bodedern brynhawn dydd Iau.
Dywedodd Prif Arolygydd Jon Aspinall: "Ein blaenoriaeth ni yn yr achos hwn ydy gwarchod unrhyw bobl ifanc pellach yn yr ardal rhag dod i niwed."
"Mae digwyddiadau fel hyn yn brin, a 'da ni'n cymryd hyn yn hynod o ddifrifol er mwyn darganfod amgylchiadau'r digwyddiad."
Mae swyddogion wedi dychwelyd i'r ysgol ddydd Gwener i siarad â disgyblion a chasglu unrhyw wybodaeth bellach fel rhan o'u hymchwiliad.
Ychwanegodd : "Da ni eisoes wedi dechrau cydweithio hefo partneriaid er mwyn datblygu mwy o addysg i rieni a phobl ifanc ynghylch y pwnc hwn a byddwn ni'n rhoi diweddariad yn fuan."
"Mae ein hymchwiliadau ni'n parhau, a dwi'n annog unrhyw un sydd hefo gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu hefo ni cyn gynted â phosibl."
"Gall rhieni a gofalwyr ddod o hyd i wybodaeth am risgiau fepio ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ewch i'r wefan, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod C161060.