Cyngor 'yn arwain ar y Gymraeg yn y gweithle'

Tuesday, 15 July 2025 16:57

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar safonau iaith yn y gweithle.

Mae’r adroddiad newydd yn amlygu’r camau cadarnhaol a gymerwyd yn ystod 2024–25 i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n ddiofyn drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys hyfforddiant i staff, datblygu adnoddau mewnol, a monitro cydymffurfiaeth.

Mae’r Gymraeg yn cael ei hystyried yn sgil hanfodol ar gyfer pob swydd o fewn y cyngor sir ac mae mwy na 99% o staff yn gallu’r iaith.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae llawer o waith wedi ei wneud i gryfhau sgiliau a chodi hyder staff wrth ddefnyddio eu Cymraeg.

Dwyeddod arweinydd y cyngor, Nia Jeffreys: "Mae gan Gyngor Gwynedd hanes hir a balch o arwain mewn materion iaith a rwyf yn falch o’r cynnydd parhaus sy’n cael ei wneud."

“Mae’n dod a boddhad mawr o wybod bydd unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n derbyn gwasanaeth gan Gyngor Gwynedd yn gallu bod yn hyderus o wybod y bydd yn derbyn gwasanaeth hwnnw drwy’r Gymraeg.”

Fel rhan o ymdrechion y cyngor i hyrwyddo a defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd, mae gwaith wedi ei wneud i gynyddu ymwybyddiaeth o’r polisi iaith a’r safonau a’r hyfforddiant iaith sydd ar gael ymysg staff.

Mae sesiynau gloywi iaith wedi eu cynnal, er enghraifft staff newydd sydd ddim wedi arfer gweithio trwy gyfrwng yr iaith / ddim wedi arfer ysgrifennu yn Gymraeg.

Mae canllawiau hefyd wedi'u darparu ar gydymffurfiaeth â safonau’r Gymraeg ac adrodd ar brosiectau sydd yn cyfrannu at weithredu’r strategaeth iaith.

Ychawnegodd y Cynghorydd Llio Elenid Owen, aelod y cabinet dros yr iaith Cymraeg: "Rwy’n hynod falch bod gan drigolion Gwynedd gyfle i ddefnyddio’u Cymraeg ar draws pob gwasanaeth mae’r Cyngor yn darparu."

"Mae’r adroddiad blynyddol yn gyfle i ni amlygu’r gwaith da sy’n cael ei gyflawni gan staff ar draws holl adrannau’r cyngor, a dwi’n edrych ymlaen at weld blwyddyn arall o weithredu, a sicrhau bod hybu’r Gymraeg yn rhan allweddol o holl waith y cyngor."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'