Cyllid ar gael i wella eiddo masnachol

Monday, 23 March 2026 17:29

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (habiloid)

Mae cronfa newydd wedi'i lansio i wella eiddo masnachol ym Mangor a Phwllheli.

Gall perchnogion eiddo masnachol sydd wedi'u lleoli o fewn prif ardaloedd masnachol yn y ddwy ganolfan ymgeisio am grant rhwng £2,500 a £10,000, gyda'r grant yn cyfrannu hyd at 70% o gost y gwaith.

Yn ôl Cyngor Gwynedd, bydd y gronfa yn cefnogi gwelliannau cyfalaf i rannau allanol adeiladau sy'n weladwy i'r cyhoedd, gan gynnwys blaenau siopau, arwyddion, ffenestri a drysau.

Mae'r arian yn cael ei hariannu drwy gronfa Effaith Balchder Bro gan Llywodraeth y DU fel rhan o'r gwaith i gefnogi economïau lleol a chreu canol trefi a dinasoedd mwy deniadol i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr.

Dyweddod y Cynghorydd Medwyn Hughes, aelod y cabinet dros yr economi: "Mae delwedd adeiladau a blaen siopau yn chwarae rhan bwysig wrth greu canol trefi deniadol a bywiog, a mae sicrhau canol trefi llewyrchus sy'n llawn bwrlwm i drigolion ac ymwelwyr i Wynedd yn flaenoriaeth i ni."

"Drwy'r gronfa hon, rydym yn cynnig cefnogaeth i berchnogion wneud gwelliannau allanol fydd yn cyfrannu at adfywio Bangor a Phwllheli."

"Ein nod ydi helpu i greu canol trefi sy'n adlewyrchu hyder a dyfodol cadarnhaol, er gwaethaf rhai o'r heriau economaidd maent wedi ei wynebu yn ddiweddar."

Mae'r gronfa ar agor i geisiadau drwy'r wefan Cyngor Gwynedd gyda'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau am 5yh ddydd Llun 18 Mai.

Bydd rhaid cwblhau'r gwaith a ariennir drwy'r gronfa erbyn 31 Rhagfyr a dim ond eiddo masnachol o fewn prif ardaloedd masnachol Bangor a Phwllheli sy'n gymwys i ymgeisio.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Yvonne Gallienne

    7:00pm - 9:00pm

    Two hours of great music with Yvonne every Tuesday evening on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'