Mae cwmni adeiladu yn Llangefni yn bwriadu creu pencadlys newydd fel rhan o'i gynlluniau i ehangu.
Mae OBR wedi prynu'r uned ym Mharc Busnes Bryn Cefni mewn cam a fydd yn helpu i ddiogelu swyddi 85 o staff presennol a chreu deg swydd newydd – gan gynnwys pum prentis.
Mae cwmni OBR yn gwmni adeiladu a pheirianneg sifil sefydledig gydag amrediad eang o gleientiaid, o awdurdodau lleol i'r sector masnachol a diwydiannol, a'r diwydiannau niwclear a gwastraff. Mae ganddyn nhw drosiant blynyddol gwerth mwy na £20 miliwn.
Yn rhan o'i gynlluniau i ehangu mae'n bwriadu tyfu fel contractwr rhanbarthol sefydledig a chyflenwr allweddol i'r sector datgomisiynu niwclear.
Dyweddod Rhys Parry Jones, cyfarwyddwr OBR: "Mae'r garreg filltir hon yn gam arwyddocaol wrth ddiogelu dyfodol ein sefydliad a chefnogi ein cynlluniau ar gyfer twf a datblygu parhaus."
Ychwanegodd: "Bydd yr adeilad newydd hefyd yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i fanteisio ar y nifer cynyddol o gyfleoedd yn Ynys Môn a Gogledd Cymru."
"Bydd symud i safle sydd eisoes yn bodoli yn agos at ein lleoliad presennol ym Mharc Busnes Bryn Cefni yn sicrhau y bydd y broses o symud yn ddidrafferth, wrth roi cyfle inni addasu a gwella'r cyfleusterau yn unol â'n hymrwymiad i gyflawni sero net erbyn 2050."
"Rydyn ni'n llawn cyffro ynghylch y bennod nesaf hon ac edrychwn ymlaen at fod wedi llawn ymgartrefu yn ein hadeilad newydd erbyn diwedd 2026."
Hyd yn hyn, roedd yr uned fusnes yn eiddo i Lywodraeth Cymru.
Dyweddod Rebecca Evans, ysgrifennydd yr economi: "Mae creu'r amodau cywir i gefnogi busnesau i dyfu'n rhan hanfodol o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer economi wyrddach, decach a ffyniannus i Gymru gyfan."
"Bydd gwerthu'r uned hon yn helpu cwmni llwyddiannus i dyfu, gan ddiogelu swyddi presennol a chreu swyddi newydd, gyda phrif swyddfeydd newydd er mwyn ei helpu i ehangu ymhellach."


Carcharu dyn o Amwlch ar ôl darganfod cyffuriau
Bangor: cau pont droed wedi tân bwriadol
Pentraeth: dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad
Club officials abused after footballer assault
Trenau ychwanegol ar gyfer gemau ail gyfle Cwpan y Byd