Carcharu paedoffeil am droseddau rhyw

Thursday, 28 August 2025 16:59

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn o Fangor wedi cael ei garcharu am gam-drin dwy ferch yn eu harddegau yn rhywiol.

Roedd Cian Williams, 20 oed, o Penrhosgarnedd, wedi cam-drin un o'r plant tra roedd ar fechnïaeth wedi'i gyhuddo o baratoi merch ifanc arall ar gyfer rhyw.

Plediodd Williams yn euog i nifer o gyhuddiadau gan gynnwys cyfathrebu rhywiol â phlentyn, dau gyhuddiad o achosi neu annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol a phedwar cyhuddiad o baratoi plentyn ar gyfer rhyw.

Targedodd y ddwy ferch ar y cyfryngau cymdeithasol, er iddyn nhw gadarnhau eu bod yn 13 ac 14 oed ar y pryd.

Ceisiodd gasglu un o'r merched o'r ysgol, gan honni mai ei brawd ydoedd, a chynnig cyffuriau iddi yn gyfnewid am ffafrau rhywiol.

Ar ôl ei arestio, atafaelwyd ei ffonau symudol gan swyddogion. Ar ei ffonau roedd bron i 200 o ddelweddau o ferched ifanc.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher, cafodd Williams ei ddedfrydu i naw mlynedd yn y carchar.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi canmol y ddau ddioddefwr a'u teuluoedd am ddangos "dewrder" drwy gydol yr ymchwiliad a'r achos llys.

Dywedodd y swyddog ymchwilio, Fflur Lloyd-Jones: "Mae cymryd y cam cyntaf i riportio troseddau o'r fath i'r heddlu yn gallu bod yn hynod o anodd, ond, trwy riportio'r troseddau hyn i ni, maen nhw wedi ein helpu i ddod â Williams o flaen ei well."

"Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd yn rhoi rhywfaint o gysur iddyn nhw o wybod na all Williams achosi niwed iddyn nhw nac unrhyw blentyn arall mwyach."

Rhoddwyd Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol amhenodol i Williams hefyd, gan ei atal rhag mynd yn agos at neu fynd i mewn i ysgolion a gorchymyn atal 15 mlynedd i ddiogelu'r dioddefwyr.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 8:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'