Carcharu dyn o Fangor am gludo cocên

Friday, 27 March 2026 16:01

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn o Fangor oedd yn meddu gwerth dros £250,000 o gocên wedi cael ei garcharu am dros saith mlynedd.

Mi roedd Craig Lloyd, 38 oed, wedi gadael y cyffuriau yng nghist ei gar, mewn blwch wedi’i labelu efo’i enw a’i gyfeiriad.

Plediodd Lloyd, o Maesgeirchen, yn euog i ddau drosedd o feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi cocên ac symiau mawr o arian parod a nifer o droseddau gyrru.

Mi ddaeth yr heddlu o'r hyd i'r cyffuriau ar ôl ei arestio ar 5 Mawrth, pan welon nhw Lloyd yn redio beic modur trydanol anghyfreithlon ar yr Stryd Fawr ym Mangor.

Mi geisiodd ffoi, ond roedd swyddogion wedi’u cyfarparu efo chwistrell fforensig Smart Tag – offeryn wedi’i ddylunio er mwyn marcio troseddwyr yn ddiogel a chyfrinachol er mwyn eu hadnabod yn ddiweddarach. Mi chwistrellwyd Lloyd a’r beic modur.

Mi wnaeth yr hylif Smart Tag, sydd efo cod fforensig unigryw sy’n gysylltiedig â’r tun o le gafodd ei chwistrellu, gysylltu Lloyd a’r cerbyd i’r drosedd.

Mi gafodd ei arestio a’i chwilio, ac mi ganfu ei fod mewn meddiant swm o arian parod a chocên.

Nes ymlaen, mi gynhaliwyd chwiliadau o’i gartref a’i gar yn ardal Maesgeirchen, lle cafodd mwy na 2 gilogram o gocên ei atafaelu o'i gerbyd.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, cafodd Lloyd ei garcharu am saith mlynedd ac un mis.

Dywedodd yr Arolygydd Ardal, Jamie Owens: "Mae hwn yn ganlyniad rhagorol i’r gymuned, ac mae dedfryd heddiw yn anfon neges eglur na fyddwn ni’n goddef y fath weithgarwch."

"Mae ein tîm plismona cymdogaethau ni’n parhau efo’i ymrwymiad i ymdrin â’r materion sydd bwysicaf i bobl leol."

"Mi wnawn ni barhau stopio a chwilio unrhyw un sydd o dan amheuaeth o gyflenwi cyffuriau er mwyn gwarchod aelodau bregus o'r gymuned"

Ychwanegodd yr Arolygydd Owens fod yr heddlu wedi dechrau treialu defnyddio’r chwistrell fforensig smart tag er mwyn ymdrin â’r defnydd anghyfreithlon o e-feiciau yng Ngwynedd.

"Mae’r cerbydau hyn yn aml yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau, lladrad ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae nhw hefyd yn peri perygl difrifol i gerddwyr, defnyddwyr y ffyrdd a’r reidwyr eu hunain."

"Mi all yr hylif farcio troseddwyr yn saff ac yn gyfrinachol er mwyn eu hadnabod yn ddiweddarach. Mae’r marc fforensig yn gallu cael ei gysylltu’n uniongyrchol i’r digwyddiad yn ddiweddarach, sy’n rhoi tystiolaeth gadarn er mwyn cymryd camau pellach."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'