
Mae masnachwr twyllodrus o Walchmai wedi cael ei garcharu am dargedu trigolion agored i niwed gydag ymddygiad ymosodol.
Yn Llys y Goron Caernarfon, dedfrydwyd Paul Anthony Evans i 12 mis yn dilyn ymchwiliad a arweiniwyd gan adran safonau masnach Cyngor Môn.
Plediodd Evans yn euog i ddau achos o gymryd rhan mewn busnes twyllodrus, un achos o gymryd rhan bwriadol mewn arfer masnachol annheg ac un achos o gymryd rhan bwriadol mewn arferion masnachol ymosodol.
Clywodd y Llys bod Evans, a oedd yn masnachu fel cwmni P. Evans Home Improvement, ynghyd â'i fab, rhwng Tachwedd 2021 a Mawrth 2024, wedi ymgymryd ag arferion busnes twyllodrus a thactegau gwerthu ymosodol.
Roedd eu gweithredoedd yn cynnwys targedu dioddefwyr bregus, galw di-groeso, ceisio denu cwsmeriaid a chodi prisiau eithafol am waith o safon isel.
Er rhoi addewid i swyddogion safonau masnach y byddent yn rhoi'r gorau i arferion o'r fath ac addo ad-dalu dioddefwr, methodd Evans a chyflawni'r cynllun ad-dalu a parhaodd i weithredu yn yr un ffordd. Arweiniodd hyn at gwynion ac, yn y pen draw, erlyniad.
Cafwyd Evans hefyd yn euog o droseddau twyll yn 2013.
Wrth roi'r ddedfryd, disgrifiodd y Barnwr Timothy Petts weithredoedd Evans fel "ymddygiad twyllodrus ymosodol parhaus" ac amlygodd y "patrwm pryderus iawn" o droseddu dro ar ôl tro er ei fod yn ymwybodol ei fod eisoes yn destun sylw gan yr adran Safonau Masnach.
Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar fe orchmynnwyd Evans i dalu £21,376 o iawndal i'w ddioddefwyr ar raddfa o £300 y mis unwaith y bydd wedi gorffen ei gyfnod yn y carchar. Bydd yn treulio o leiaf hanner ei ddedfryd yn y carchar gyda'r gweddill ar drwydded.
Cafodd ei fab, Paul Lennon Evans, ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Caernarfon fis diwethaf wedi iddo bledio'n euog i dwyll drwy fethu â darparu hawliau canslo a methu ag arddangos diwydrwydd proffesiynol o dan gyfraith gwarchod cwsmeriaid.
Derbyniodd ddedfryd o garchar am 36 wythnos - wedi'i ohirio am 12 mis - a gorchymyn i gyflawni rhaglen adsefydlu ac 80 awr o wasanaeth cymunedol a rhaid iddo dalu £3,089.34 mewn iawndal ar raddfa o £200 y mis.
Cafodd y ddau hefyd eu gwneud yn destun i orchmynion ymddygiad troseddol am yr tair blynedd nesaf.
Mae'r rhain yn eu hatal rhag galw'n ar drigolion yn ddi-groeso, derbyn taliadau am waith cyn ei gwblhau i lefel sy'n bodloni'r cwsmer neu ymgymryd â gwaith yn Ynys Môn heb roi gwybod i adran safonau masnach.
Yn dilyn y ddedfrydu ddydd Mawrth, dyweddod y Cynghorydd Nicola Roberts, sy'n dal y portffolio diogelu'r cyhoedd yng Nghyngor Ynys Môn: "Mae'n annerbyniol cymryd mantais o unigolion bregus ac ni fydd hyn yn cael ei ddioddef."
"Rydym yn falch o ddewrder y dioddefwyr a gefnogodd swyddogion safonau masnach er mwyn dod â'r troseddwyr hyn o flaen eu gwell."
"Rydym yn annog unrhyw drigolion sydd ag unrhyw bryderon am arferion unrhyw fasnachwr i gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cyngor Ar Bopeth drwy ffonio 0808 223 1144. Nid yn unig yw gweithredu yn eich helpu chi ond bydd hefyd yn diogelu eraill yn ein cymuned."