Cam ymlaen i ysgol newydd ym Mangor

Wednesday, 21 May 2025 14:57

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Bydd enwau rhai o blant Bangor yn rhan o strwythur eu hysgol am genedlaethau i ddod.

Cafodd disgyblion Ysgol Ein Harglwyddes yn y ddinas y cyfle i arwyddo'r trawstiau dur a fydd yn ffurfio ffrâm eu hysgol newydd, sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd

Daeth rhai o ddisgyblion Blwyddyn 6 a'u hathrawon at ei gilydd gyda'r Esgob Peter M. Brignall o Esgobaeth Gatholig Wrecsam, cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd a chwmni Read Construction – sydd wedi ennill y gytundeb i adeiladu'r ysgol newydd – ar gyfer y seremoni fyr.

Roedd rhai o gyn benaethiaid yr ysgol, a gyfrannodd dros y blynyddoedd at yr ymdrech o sicrhau ysgol newydd, hefyd yn bresennol. 

Bydd yr adeilad newydd yn gartref llawer mwy addas ar gyfer y 150 o ddisgyblion a staff na'r adeilad presennol, sydd wedi dirywio dros amser.

Dywedodd Aimee Jones, pennaeth Ysgol Ein Harglwyddes: "Roedd y digwyddiad i arwyddo'r trawstiau dyr yn gyfle cyffroes i'r plant ac roedden nhw wedi mwynhau gweld sut mae adeilad eu hysgol newydd yn datblygu."

"Rydym yn hynod falch bydd y ddarpariaeth newydd o'r safon uchaf ar gael i'n disgyblion ac rydym yn edrych ymlaen i gael gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau newydd."

Flwyddyn yn ôl, cafwyd cadarnhad fod Cyngor Gwynedd wedi sicrhau £7.7 miliwn er mwyn codi'r ysgol newydd fydd yn cynnig addysg Gatholig ym Mangor ar hen safle Glanadda yn y ddinas.

Bydd safle'r ysgol newydd hefyd yn cynnwys darpariaeth Blynyddoedd Cynnar.

Ychwanegodd yr Esgob Peter M. Brignall: "Rydw i'n hynod falch ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir hon a chael arwyddo'r trawstiau wrth i'r ysgol newydd gael ei chodi. Mae'n braf iawn gweld llawenydd, gobaith a disgwyliad y plant wrth i'w hysgol newydd ddod gam yn nes."

"Rydw i'n ddiolchgar i bawb sydd ynghlwm a'r gwaith am y cynnydd hyd yn hyn, ac yn enwedig i'r contractwyr am wneud y gorau o'r tywydd braf diweddar."

Mae 85% o'r arian ar gyfer codi'r ysgol newydd  yn dod o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a 15% gan Esgobaeth Gatholig Wrecsam.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Scratch, Crackle, and Pop!

    7:00pm - 9:00pm

    Tom Cooke delves into his Vinyl collection every Monday evening on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'