Mae dynes wedi cael ei harestio yn dilyn cyrch cyffuriau mewn tŷ yng Nghaernarfon.
Cafodd yr heddlu yn chwilio cyfeiriad yng Nghae'r Saint bore Iau yn dilyn pryder ymhlith y gymuned lleol ynglŷn â gwerthu cyffuriau yn yr ardal.
Mae swm o beth a amheuir o fod yn gyffur Dosbarth A wedi’i atafaelu, ac mae un dynes yn cael ei holi o dan amheuaeth o feddu efo’r bwriad o gyflenwi.
Dwyeddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mi wnawn ni barhau i dargedu’r rhai sy’n achosi niwed i’n cymunedau drwy werthu cyffuriau."
"Mi allwch chi riportio gwerthu cyffuriau yn ddienw drwy ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111."


System barcio newydd yng Nghoedwig Niwbwrch
Cronfa yn ailagor ar gyfer prosiectau cymunedol
Cwpan Cymru: arestio pump ar ôl anhrefn mewn tafarn
Tân ysgubor yn Llannerch-y-medd yn 'fwriadol'
Canllaw gigs Cymraeg yn lansio ap newydd