Bangor: cau pont droed wedi tân bwriadol

Monday, 26 January 2026 16:47

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae pont droed boblogaidd wedi cau ym Mangor yn dilyn tân bwriadol.

Cafodd rhan sylweddol o bont droed rhwng Lôn Las Ogwen a Maesgeirchen ei llosgi yn gynnar fore Mercher diwethaf.

Mae’r Cyngor Gwynedd wedi cau y llwybr dros dro oherwydd pryder am ddiogelwch y strwythur.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i'r ymosodiad llosgi bwriadol

Meddai'r Cynghorydd Craig ab Iago, aelod y cabinet dros yr amgylchedd: "Mae’r bont droed yma ym Mangor yn hynod boblogaidd gyda thrigolion lleol ac yn cynnig cyfle i fwynhau amgylchedd a byd natur ar gyrion y ddinas."

"Mae’n bryderus iawn felly fod y strwythur wedi gorfod ei gau ar ôl y tân yma, ac mae’n loes calon gweld y difrod sydd wedi ei achosi nid yn unig i strwythur y bont ond hefyd i goed aeddfed a’r llygredd i’r amgylchedd leol yn gyffredinol sgil y tân."

"Yn ogystal â’r anhwylustod fod rhaid cau y bont, mi fydd yna gostau sylweddol i’r cyngor petaem yn gallu mynd ati i atgyweirio’r strwythur – mewn cyfnod lle mae cyllid eisoes yn brin, mae hyn yn gost di-angen."

"Mae’n siomedig bod ymddygiad lleiafrif yn difetha mwynhad pobl o’r bont droed hon sydd yn gyswllt pwysig i bobl leol."

"Rydym yn erfyn ar y rhai sy’n gyfrifol i barchu eiddo cyhoeddus ac i feddwl am effaith eu hymddygiad ar y gymuned leol, ac i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y mater i gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru."

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Afon Cegin toc cyn 2yb bore Mercher, sydd o fewn y goedwig y tu ôl i Rodfa’r Frenhines.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, cafodd y tân ei gychwyn yn fwriadol gan sylwedd yn cael ei dywallt ar y bont ac yna’i gynnau.

Dweddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mae gofyn bod unrhyw un welodd y digwyddiad neu unrhyw ymddygiad amheus yn yr ardal dros nos yn cysylltu efo’r heddlu."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr tan, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ewch i'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 26000055252. Fel arall, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'