Mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn dilyn gêm gynghrair rhwng Porthmadog a Bae Trearddur.
Mae lluniau ffôn ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos y chwaraewr Bae Trearddur, Tom Taylor, yn taro Danny Brookwell yn ei wyneb gyda'i benelin yn ystod gêm Cynghrair Ardal yn Y Traeth brynhawn Sadwrn.
Cafodd Brookwell ei driniaeth ar y cae am gyfergyd, yn ôl CPD Porthmadog, a enillodd y gêm 3-2.
Ni chafodd unrhyw gardiau coch eu rhoi yn ystod y gêm gan y dyfarnwr, Richard Gwyn Edwards.
Yn dilyn cyfarfod brys ddydd Sul, mae'r clwb Bae Trearddur wedi rhyddhau Taylor ar unwaith wedi gwaharddiad byr.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: “Yn dilyn adolygiad mewnol, penderfynwyd rhyddhau'r chwaraewr gwaharddedig dan sylw ar unwaith.”
“Nid yw Clwb Pêl-droed Bae Trearddur yn cymeradwyo trais o unrhyw fath ac yn cydnabod na ddylai'r digwyddiad fod wedi digwydd.”
“Mae'r clwb yn cynnig ei ymddiheuriadau diffuant i'r chwaraewr arall dan sylw, Clwb Pêl-droed Porthmadog, swyddogion y gêm, cefnogwyr, a'r gymuned bêl-droed ehangach.”
“Bydd y clwb yn cydweithredu'n llawn ag unrhyw ymchwiliadau allanol neu brosesau disgyblu ac ni fydd yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd tra bod y materion hyn yn parhau.”
Dyweddod llefarydd ar ran CPD Porthmadog: “Yn dilyn y digwyddiad yn Y Traeth brynhawn ddydd Sadwrn, sydd wedi cael ei ddogfennu'n dda ar amryw o gyfryngau cymdeithasol, hoffai'r clwb bwysleisio mai ei brif bryder yw lles a diogelwch ein chwaraewr Danny Brookwell.”
”Cafodd Danny gyfergyd ac ar ôl triniaeth bu'n rhaid iddo adael y cae chwarae. Ein dealltwriaeth ni yw ei fod yn gwella gartref.”
“Hoffai'r clwb fynegi ei siom bod y digwyddiad hwn wedi digwydd o gwbl.”
”Bwriad y clwb yw gadael i'r awdurdodau priodol ddelio â'r mater ac ymddiried y bydd y camau cywir yn cael eu gwneud a'n bod ni ddim yn gweld golygfa mor erchyll eto.”
Yn ôl yr heddlu, mae dyn 35 oed yn parhau i fod yn y ddalfa.
Dywedodd llefarydd: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymwybodol o fideo sy'n cylchredeg ar-lein yn ymwneud â digwyddiad a ddigwyddodd mewn gêm bêl-droed rhwng Clwb Pêl-droed Bae Treaddur a Clwb Pêl-droed Porthmadog ddydd Sadwrn (17 Ionawr).”
“Mae swyddogion wedi bod yn gwneud ymholiadau i sefydlu'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r digwyddiad.”
Ychwanegodd: “Mae ymholiadau'n parhau a byddem yn gofyn i aelodau'r cyhoedd beidio â dyfalu tra bod yr ymchwiliad yn parhau.”
Yn ôl Cynghreiriau Ardal, sy'n cynrychioli trydydd haen cynghrair pêl-droed Cymru, mae CBDC wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth mewn cysylltiad â'r digwyddiad i ffonio 101, gan dyfynnu’r rhif cyfeirnod 26000046180.


Foden wedi ‘rhwystro’ ymchwiliad yn erbyn athro arall
Carcharu dyn o Amwlch ar ôl darganfod cyffuriau
Bangor: cau pont droed wedi tân bwriadol
Pentraeth: dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad
Club officials abused after footballer assault