Apêl yn dilyn cyfres o ladradau ym Mangor

Tuesday, 3 February 2026 17:28

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae'r heddlu yn ymchwilio yn dilyn sawl byrgleriaeth a dwyn cerbydau ym Mangor dros y penwythnos.

Yn ôl ditectifs, roedd nifer o ddigwyddiadau yn ardaloedd Hirael a Maesgeirchen yn y ddinas rhwng dydd Sadwrn a dydd Sul (31 Ionawr - 1 Chwefror)

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynyddu eu patrolau yn y ddwy ardal ac yn annog trigolion lleol i fod yn wyliadwrus.

Dywedodd Ditectif Ringyll Geraint Jones: "'Da ni'n rhybuddio trigolion i fod yn wyliadwrus am weithgarwch amheus ac ystyried diogelwch eu cartrefi a'u cerbydau nhw."

"Gwiriwch bob amser bod drysau a ffenestri wedi'u cloi, a bod goriadau'n cael eu cadw'n saff draw o ddrysau."

"Dwi'n apelio ar unrhyw un a welodd neu a glywodd unrhyw beth amheus rhwng y dyddiadau uchod i gysylltu hefo ni."

"Yn ogystal, dwi'n gofyn i drigolion wirio unrhyw luniau CCC neu gamerâu cerbyd a allai fod wedi dal unrhyw un o'r digwyddiadau neu'r unigolion o dan sylw."

"Mae ymchwiliadau i'r adroddiadau hyn yn parhau, a bydd mwy o batrolau yn yr ardaloedd er mwyn tawelu meddwl."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu luniau perthnasol, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod.26000086044.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • End the day with Dai

    10:00pm - Midnight

    Two hours of relaxing sounds to finish the day

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'