Aldi i greu 40 o swyddi ym Mhorthaethwy?

Friday, 27 March 2026 00:00

By Ystafell Newyddion MônFM

Argraff yr artist

Mae Aldi yn bwriadu creu 40 o swyddi fel rhan o gynlluniau ar gyfer siop newydd ym Mhorthaethwy.

Mae'r gadwyn archfarchnadoedd yn addo buddsoddi £7 miliwn yn yr economi leol os caiff cynlluniau eu cymeradwyo ar gyfer siop ger parc busnes Four Crosses.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn digwydd tan y mis nesaf.

Yn ôl Aldi, byddai siop newydd ym Mhorthaethwy "yn gwella’r cynnig manwerthu lleol yn sylweddol, sydd ar hyn o bryd wedi’i gyfyngu i siopau llai, drytach nad ydynt yn gallu diwallu anghenion siopa wythnosol y boblogaeth leol."

Ychwanegodd: "Byddai cynigion Aldi yn cynnig mynediad hawdd at fanwerthwr cost isel ac o ansawdd uchel i drigolion Porthaethwy, ynghyd â chreu 40 o swyddi newydd, cyfwerth ag amser llawn, a delir ar gyfradd sy’n arwain y diwydiant."

Mae cynlluniau ar gyfer yr archfarchnad yn cynnwys maes parcio gyda 115 o leoedd, gan gynnwys wyth lle hygyrch a chwe lle i reini a phlant, a 12 pwynt gwefru cerbydau trydan, gyda'r gallu i osod mwy.

Y llynedd, cafodd cynlluniau ar gyfer siop Aldi yn Amlwch eu dileu, ar ôl i'r dref gael ei hychwanegu at restr flaenoriaethau yn dilyn ymgyrch leol.

Mae'r ymgynghoriad ar gyfer cynlluniau Pont Menai yn parhau tan ddydd Iau 16 Ebrill, cyn i Aldi fwriadu cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Ynys Môn.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Gavin Roberts

    6:00pm - 8:00pm

    It's Friday! Gavin's here on MônFM with two hours of great songs

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'