Mae dynes wedi osgoi carchar ar ôl achosi difrod gwerth dros £10,000 mewn tŷ yn Abermaw.
Cafodd April Lock ei cyhuddo o ddifrod troseddol a dwyn yn dilyn lladrad mewn cyfeiriad ar Stryd Jubilee, eri ei bod wedi'i gwahardd rhag mynd yno.
Ym mis Mehefin, gorfododd dau ddrws yn agored ac achosodd ddifrod i’w mecanweithiau cloi.
Yna fe chwistrellodd baent dros ddeuddeg camera teledu cylch cyfyng yn yr adeilad ac achosodd ddifrod i’r synhwyrydd mwg. Aseswyd cyfanswm cost y difrod a achoswyd yn £10,660.
Yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mawrth, cafodd Lock ei dedfrydu i chwe mis o garchar, wedi'i ohirio am flwyddyn yn ogystal â gorfodi i dalu iawndal.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal, Iwan Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Dylai'r rhai sy'n parhau i achosi niwed ac aflonyddwch yn ein cymunedau ddisgwyl camau di-baid gan yr heddlu."
"Byddwn yn defnyddio pob pŵer sydd ar gael ac yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i dargedu troseddwyr sy'n ail-droseddu, i atal eu hymddygiad, ac, lle bo modd, i'w dwyn gerbron y llysoedd."


Llanfairfechan: bachgen wedi marw mewn gwrthdrawiad
Marwolaeth babi: darganfod corff merch - heddlu
Peilotiaid RAF yn gwella gartref ar ôl damwain
Bangor: chwilio’n parhau ar ôl darganfod corff babi
Caergybi: arestio dyn wedi ymosodiad honedig