A499: dyn ifanc wedi marw mewn gwrthdrawiad

Sunday, 29 March 2026 15:46

By Ystafell Newyddion MônFM

Google

Mae dyn ifanc wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng sawl cerbyd ar gyrion Pwllheli.

Yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, cafodd tri o bobl eu cludo i'r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A499 ger Parc Glanfryn yn Y Ffôr ychydig cyn 10.15yh nos Sadwrn.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans bod pedwar ambiwlans wedi'u hanfon i’r lleoliad, yn ogystal ag uned ymateb.

Galwyd Ambiwlans Awyr Cymru a hofrennydd chwilio ac achub o Gaernarfon i leoliad y ddamwain hefyd.

Cafodd dau o bobl eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Prifysgol Brenhinol Stoke a chafodd trydydd person ei gludo mewn ambiwlans.

Roedd y ffordd ar gau dros nos ond mae wedi ailagor ers hynny.

Mewn datganiad, dyweddod Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionydd: "Yn hynod drist o glywed am farwolaeth drasig dyn ifanc mewn damwain ger Y Ffôr, Pwllheli neithiwr."

"Mae fy nghalon yn mynd allan at ei deulu a’i ffrindiau. Hefyd rwy’n anfon fy meddyliau at y rhai a anafwyd. Hoffwn hefyd estyn fy niolch i’r gwasanaethau brys a ymatebodd mewn amgylchiadau mor heriol."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'