Gwobrau dysgwyr i Katie a Caerwyn

Saturday, 23 May 2026 23:01

By Ystafell Newyddion MônFM

Urdd Gobaith Cymru

Ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, cyflwynwyd medalau i enillwyr prif gystadlaethau'r dysgwyr.

Dyfarnwyd y Medal Bobi Jones (19-25 oed) i Katie Baddiley yn wreiddiol o Nottingham a Medal y Dysgwyr (Bl.10 ac o dan 19 oed) i Caerwyn Saunders o Dreorci.

Nod ddwy gystadleuaeth yw gwobrwyo unigolyn sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg, sy'n ymfalchïo yn eu Cymreictod ac yn gallu cynnal sgwrs yn y Gymraeg.

Y beirniaid ar gyfer y ddwy wobr eleni oedd Eirian Wyn Conlon a Francesca Sciarrillo, ennillydd Medal y Dysgwyr yn 2019. Noddwyd y ddefod yn y Pafiliwn Gwyn gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.

Medal Bobi Jones

Mae Medal Bobi Jones yn cael ei dyfarnu i unigolyn 19-25 mlwydd oed sydd yn dangos sut maen nhw'n defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd drwy ateb cwestiynau am eu rhesymau dros ddysgu'r iaith, yr effaith mae dysgu'r Gymraeg wedi ei gael ar eu bywydau, a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Mewn cystadleuaeth o safon anhygoel, gyda 7 ymgeisydd a 'phob un yn ysbrydoliaeth' yn ôl y beirniad, Katie Baddiley ddaeth i'r brig, o drwch blewyn.

Dechreuodd Katie ddysgu Cymraeg yn 2023 pan symudodd i Fangor i astudio yn y Brifysgol. Mae'n Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) ac yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn Nyffryn Nantlle ac yn byw yng Nghaernarfon.

Mae hi wedi newid cyfrwng iaith ei bywyd yn llwyr mewn amser byr, ac yn awyddus i helpu dysgwyr eraill ar eu taith.

Dywedodd: "Dwi'n teimlo'n gryf y dylai unrhyw un sy'n gweithio mewn ardal Gymraeg efo'r cyhoedd ddangos parch drwy ymdrechu i siarad Cymraeg gyda nhw."

"Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i fynychu cwrs yn Nant Gwrtheyrn ac i ddysgu Cymraeg drwy fy ngwaith. Dwi'n mwynhau canu yn y Gymraeg gyda chôr Heddlu Gogledd Cymru."

"Hoffwn fagu plant sy'n rhugl yn y Gymraeg un diwrnod ac efallai ysgrifennu colofn yn y Gymraeg yn fy mhapur bro lleol."

Dyfarnwyd Caitlin Brunt o'r Drenewydd yn ail a Georgia Jones o Wrecsam yn drydydd.

Medal y Dysgwyr

Mae hi'n 40 mlynedd ers cyflwyno Medal y Dysgwyr am y tro cyntaf, yn Eisteddfod yr Urdd Dyffryn Ogwen 1986.

Mae'r wobr yn cael ei dyfarnu i berson ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 mlwydd oed sy'n gallu dangos sut maen nhw'n defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu'r gwaith ac yn gymdeithasol.

Dywedodd y beirniaid fod yr ymgeiswyr i gyd yn "llysgenhadon arbennig i'r iaith Gymraeg, ac mae'n deg dweud ei bod hi'n ddiogel yn nwylo'r ymgeiswyr hyn."

Caerwyn Saunders o Dreorci ddaeth i'r brig.

Mae Caerwyn yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Treorci ac yn aelod brwd o'r Urdd sy'n gwirfoddoli ac yn cystadlu yn aml mewn Eisteddfodau. Mae'n Gadeirydd y Criw Cymraeg yn yr ysgol, ac yn falch iawn o fod yn llysgennad ysgol i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dywedodd: "Mae'r Urdd wedi agor drws i fyd hollol newydd i fi a dwi wedi bod yn lwcus i gael fy ysbrydoli gan athrawon anhygoel bob dydd yn yr ysgol yn Nhreorci, yn enwedig Mrs James, sy'n rhoi popeth er mwyn codi statws y Gymraeg yn yr ysgol."

"Hoffwn fod yn athro Cymraeg yn y dyfodol - i ysbrydoli eraill i gadw'r iaith yn fyw. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb – a dyma'r neges dwi'n benderfynol o'i lledaenu."

Dyfarnwyd Jayden Reaney o Gaer yn ail ac Effie Capstick o Gaergybi yn drydydd.

Rhoddir Medal Bobi Jones gan Aelwyd / Capel Cildwrn a rhoddir Medal y Dysgwyr gan Bwyllgor Cronfa Eisteddfod Genedlaethol 1957.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Eisteddfod

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Cari Hedd

    Noon - 3:00pm

    P'nawn Sul yng nghwmni Cari Hedd ar MônFM.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'