Mae Cyngor Ynys Môn yn gofyn i drigolion am eu barn ar gynllun datblygu lleol newydd.
Bydd y CDLI newydd yn cymryd lle'r cynllyn datblygu lleol ar y cyd presennol a fabwysiadwyd yn 2017.
Ar ôl ei gwblhau, bydd yn cynnig sail ar gyfer penderfynu ar bob cais cynllunio ar Ynys Môn i'r dyfodol dros y 15 mlynedd nesaf, gan gynnwys popeth o gartrefi a chyflogaeth newydd i drafnidiaeth, gwytnwch hinsawdd, cyfleusterau cymunedol a diogelu'r amgylchedd naturiol.
Yn ôl y cyngor, bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn pennu cyfeiriad hirdymor y cynllun newydd, gan gynnwys:
- Materion a'r heriau allweddol sy'n wynebu yr ynys - yr economi, anghenion tai, capasiti seilwaith, newid yn yr hinsawdd, iaith a diwylliant Cymraeg, a diogelu'r amgylchedd.
- Gweledigaeth ddrafft ar sut y gall yr Ynys edrych erbyn 2039 - gan ganolbwyntio ar gymunedau cryf, economi leol wydn, amgylchedd iach a datblygu cynaliadwy.
- Amcan Strategol drafft a fydd yn llywio creu polisïau i'r dyfodol. Yn ôl y cyngor, mae'r amcanion yn seiliedig ar dystiolaeth am anghenion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Môn.
- Opsiynau gwahanol ar gyfer twf tai a chyflogaeth, gan ystyried tueddiadau poblogaeth, y sector ynni, prosiectau mawr posib fel adeiladu niwclear newydd yn Wylfa a chynllun Porthladd Rhydd Ynys Môn, a'r angen am gymunedau cytbwys, cynaliadwy
- Strategaethau gofodol amgen - gwahanol ffyrdd o ddosbarthu datblygiad ar draws yr Ynys, fel canolbwyntio twf mewn aneddiadau allweddol neu ei ledaenu'n fwy cyfartal.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud a nid oes unrhyw safleoed wedi'u dyrannu fel ran o CDLI newydd.
Ond mae penaethiaid y cyngor eisiau profi syniadau, casglu adborth a deall blaenoriaethau lleol cyn drafftio cam nesaf y cynllun, a adnabyddir fel y strategaeth a ffafrir.
Dwyeddod y Cynghorydd Nicola Roberts, sy'n dal y portffolio cynllunio a gwarchod y cyhoedd: "Bydd y Cynllun Datblygu Lleol newydd yn dylanwadu ar bron pob agwedd ar fywyd bob dydd ar Ynys Môn - lle mae cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu, lle mae swyddi'n cael eu creu, sut mae pobl yn teithio, sut mae cymunedau'n tyfu, a sut mae'r amgylchedd a'r Gymraeg yn cael eu diogelu."
"Fel cyngor, rydym am wneud yn siŵr bod y cynllun newydd yn adlewyrchu anghenion a dyheadau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yma, ac felly mae ymgysylltu cynnar yn hanfodol."
"Byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan. Mae eich adborth yn y cam cynnar hwn yn hanfodol wrth lunio dyfodol cadarnhaol a chynaliadwy i'n cymunedau; yn ogystal â diwallu anghenion ac uchelgeisiau pobl Ynys Môn."
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus yn rhedeg tan ddydd Mercher 25 Mawrth a bydd swyddogion yn dadansoddi'r holl ymatebion ac yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor polisi cynllunio, gan amlinellu'r materion allweddol a godwyd a'r camau nesaf a argymhellir.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i wefan Cyngor Ynys Môn.
Mae copïau papur hefyd ar gael o bob llyfrgell ym Môn, pencadlys y cyngor a Chanolfan Fusnes Môn yn Llangefni.


Dau ddyn wedi marw ar yr Wyddfa
Prosiect newydd i adfer Afon Ogwen
Gwaith i helpu i leihau erydiad yn Ninas Dinlle
Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Pennod newydd i Ysgol Friars