Tir a Môr 'yn dod a dysgu’n fyw'

Saturday, 27 September 2025 10:58

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae adnodd addysgol dwyieithog yn cael ei gyflwyno i ysgolion ar draws Ynys Môn a Gwynedd.

Mae'r pecyn Tir a Môr, sydd wedi'i ddiweddaru yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru, yn cynnwys pynciau newydd sy'n cyflwyno dysgwyr i gynefinoedd tir, afonydd a môr y wlad drwy brofiadau dysgu hygyrch, go iawn.

Mae pecynnau yn cael eu anfon i bob ysgol ar draws yr rhanbarth, ac maent yn cynnwys 49 gweithgaredd ar draws 14 pwnc - pob un ohonynt wedi'u gwreiddio yn y tirweddau a'r rhywogaethau sydd i'w canfod yng Nghymru.

Gall dysgwyr ail-greu sut mae wystrys yn hidlo dŵr, adeiladu modelau o gwrel bwytadwy, profi tyrfedd dŵr a mapio achosion o weld bywyd gwyllt, ymysg tasgau ymdrwythol eraill.

Daw'r fenter o ganlyniad i gydweithio rhwng Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a'r Sarnau a Phartneriaeth Llŷn, gyda mewnbwn gan ystod eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn sector amgylcheddol Cymru.

I ddynodi'r lansiad, bu disgyblion yn Ysgol Cymerau, Pwllheli, yn cymryd rhan mewn sesiwn wyddoniaeth ryngweithiol wedi'i harwain gan Awen Ashworth - sylfaenydd sefydliad addysg STEM, Sbarduno.

Bu disgyblion yn ymchwilio i asidedd dŵr ac yn archwilio'r môr-wyntyll pinc drwy arbrofion ymarferol yn deillio'n uniongyrchol o'r adnodd.

Dywedodd Rowena Jones, athrawes yn Ysgol Cymerau: "Nid yn unig mae'r adnodd hwn yn cefnogi sgiliau trawsgwricwlaidd, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, mae hefyd yn addas ar gyfer ystod eang o ddysgwyr, o 5 oed hyd at 14 oed."

"Yn ogystal â hyn, fel athrawes, mae'n hawdd iawn defnyddio'r adnodd, gyda chyflwyniadau defnyddiol, canllawiau sy'n dangos sut i wneud pethau, sbardunau trafodaeth a thaflenni gwaith ar gyfer pob pwnc."

"Gellir addasu pob un ohonynt i'w defnyddio yn y dosbarth, ar dir yr ysgol ac yn yr amgylchedd lleol ehangach."

Y tymor hwn, bydd pob ysgol yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn derbyn copi caled o'r adnodd, gan roi cyfle i ddisgyblion ar draws y ddwy sir archwilio eu hamgylcheddau lleol drwy ddysgu ymarferol, cyffrous. 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, y cynghorydd, sy'n dal y portffolio addysg ar Gyngor Ynys Môn: "Mae lansiad pecyn addysg Tir a Môr yn gam cyffrous ymlaen yn ein hymrwymiad i addysg amgylcheddol yma ar Ynys Môn."

"Mae'r adnodd hwn nid yn unig yn cysylltu ein plant â'r tir, môr ac afonydd sy'n siapio hunaniaeth ein hynys, ond hefyd yn cefnogi gweledigaeth strategol y cyngor o greu Ynys Môn iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu."

"Trwy fuddsoddi mewn addysg sy'n dathlu ein treftadaeth naturiol, rydym yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ofalu am eu hamgylchedd a'u cymunedau."

Daw'r fenter o ganlyniad i gydweithio rhwng Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a'r Sarnau a Phartneriaeth Llŷn, gyda mewnbwn gan ystod eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn sector amgylcheddol Cymru.

Mae'n cael ei chydlynu gan dîm Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a'r Sarnau Cyngor Gwynedd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Craig ab Iago, aelod y cabinet Cyngor Gwynedd dros yr amgylchedd: "Mae'r adnodd Tir a Môr yn ymwneud ag annog pobl ifanc i ddeall a gofalu am y byd naturiol sydd o'u hamgylch - drwy esiamplau go iawn a thasgau ymarferol. Mae hefyd yn gyfle iddynt ddod i adnabod eu hardal leol o safbwynt gwahanol."

"Yn ystod yr argyfwng hinsawdd yr ydym yn ei wynebu, mae'n bwysicach nag erioed i helpu pobl ifanc weld eu lle o fewn ein hecosystem - a'r effaith y mae pobl yn ei chael ar fywyd gwyllt ac fel arall."

Mae deunyddiau digidol, gan gynnwys gweithgareddau, taflenni gwaith ac adnoddau hefyd ar gael i bawb ar-lein drwy'r gwefan Tir a Môr.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Ar y Lôn gyda Rhys Eds

    4:00pm - 6:00pm

    Mae Rhys yma ar MônFM tan 6. Dim byd ond y tiwns gorau i gychwyn eich penwythnos chi!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'