Ynys Môn fydd y rhan gyntaf o Gymru i gynnig rhyddhad treth cyngor llawn i drigolion â salwch terfynol.
O 1 Ebrill, bydd trigolion sydd wedi cael diagnosis o salwch terfynol yn gymwys i gael gostyngiad llawn yn y Dreth Gyngor am hyd at 12 mis, neu tan ddau fis ar ôl dyddiad y farwolaeth, pu’n bynnag a ddaw gyntaf.
Yn gynharach y mis hwn, pleidleisiodd cynghorwyr o blaid y polisi newydd, sy'n berthnasol i drigolion sydd â'u prif breswylfa ym Môn.
Dyweddod y Cynghorydd Jeff Evans (Annibynwyr Môn), a gyflwynodd gynnig fis Rhagfyr diwethaf: “Rwy'n falch ac yn gwerthfawrogi bod Cyngor Sir Ynys Môn a'i aelodau yn teimlo eu bod yn gallu cefnogi'r cynnig hwn."
"Mae cefnogi pobl yn y gymuned ar ddiwedd oes y peth iawn i wneud ac yn gyfiawn, mi fydd yn helpu i liniaru pwysau ariannol mewn cyfnod mor anodd."
Yn ôl y cyngor, dim ond llond llaw o gynghorau ledled y DU sydd wedi cyflwyno mesurau tebyg, ac mae cefnogaeth Ynys Môn "yn dangos ei hymrwymiad i gefnogi trigolion sy’n agored i niwed gyda thrugaredd, urddas a thegwch."

Dywedodd arweinydd y cyngor, Gary Pritchard: “Mae hwn yn bolisi blaengar sy’n dangos cydymdeimlad ac yn rhoi pobl wrth wraidd ei waith. Dylai teuluoedd sy'n wynebu salwch terfynol allu canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf - cefnogi eu hanwyliaid."
"Drwy fod y cyngor cyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r lefel hon o gefnogaeth, rydym yn gosod esiampl gref o sut all awdurdodau lleol weithredu gydag empathi a thegwch.”
Mae'r fenter hefyd yn cyd-fynd ag ymgyrchoedd eiriolaeth cenedlaethol, yn fwyaf nodedig gan Marie Curie, sydd wedi galw ers tro am well amddiffyniadau ariannol i bobl ar ddiwedd oes.
Mae ymchwil gan yr elusen yn dangos bod tua 90% o bobl sy'n marw bob blwyddyn angen gofal lliniarol neu ddiwedd oes.
Ychwanegodd Natasha Davies, uwch reolwr polisi gan Marie Curie Cymru: “Rydym yn falch iawn o weld cynghorwyr yn Ynys Môn yn pleidleisio i ymestyn cefnogaeth ariannol sydd ei hangen yn fawr ar bobl sy’n byw gyda salwch terfynol."
"Mae gormod o bobl ar ddiwedd eu hoes yn poeni am sut i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae mwy a mwy o gydnabyddiaeth yng Nghymru o'r angen i roi gwell cefnogaeth ariannol i bobl sy'n byw gyda salwch terfynol, er mwyn eu hamddiffyn rhag tlodi a chaledi ariannol."
"O ystyried mai treth gyngor yw'r ail gost fwyaf ar ôl tai i'r rhan fwyaf o bobl, mae lleihau'r bil hwn yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gael arian i bocedi pobl yn gyflym."
"Er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad at y gefnogaeth hanfodol hon, mae Marie Curie Cymru yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys pobl sy'n byw gyda salwch terfynol yng nghynllun gostyngiadau'r dreth gyngor.”
Bydd y polisi newydd yn cael ei adolygu gan y cyngor ar ôl 12 mis i sichrau ei fod yn parhau i ddiwallu anghenion trigolion yn effeithiol.


Arolwg i helpu gwarchod adar yn Nhraeth Lafan
Caffi newydd Ysbyty Gwynedd yn agor
Cynllun 'Dyfodol Môn' yn dychwelyd
'Adwyfio Bangor' yn nodi ei blwyddyn gyntaf
Pwllheli: enwi dyn 'gofalgar' a fu farw ar yr A499