Rhybudd heddlu ar ôl lladradau olew

Thursday, 19 March 2026 00:43

By Ystafell Newyddion MônFM

Pixabay

Mae lladradau olew gwresogi yng Ngwynedd ac Ynys Môn wedi cynyddu ers dechrau'r flwyddyn, yn ôl ditectifs.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio preswylwyr a pherchnogion busnes i fod yn wyliadwrus o weithgarwch amheus.

Mae swyddogion wedi cael gwybod ynglŷn â lladradau o ardaloedd Caernarfon, Pwllheli, Cricieth, Amlwch a Rhosneigr yn y tri mis diweddar.

Maen nhw'n gofyn i berchnogion ystyried y camau canlynol i amddiffyn eu tanc olew:

  • Gosodwch glo clap neu gap llenwi cloadwy ar eich tanc olew
  • Diogelwch y tanc olew o fewn cawell
  • Gosodwch giatiau cloadwy
  • Gosodwch fesurydd electronig, sy’n cychwyn larwm pan mae lefel yr olew yn gostwng
  • Gosodwch oleuadau diogelwch ger lleoliad y tanc
  • Gosodwch gamerâu TCC

Os oes gynno chi unrhyw wybodaeth ynglŷn â lladradau olew, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Soul on Sunday

    8:00pm - 10:00pm

    Join Malcolm Williams for two hours of great music to finish the weekend. Get in touch with the show on Facebook

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'