Reform yn ennill is-etholiad Ynys Gybi

Friday, 6 February 2026 01:58

By Ystafell Newyddion MônFM

Reform

Mae Reform wedi ennill ei sedd gyntaf ar Gyngor Ynys Môn yn dilyn buddugoliaeth yn is-etholiad Ynys Gybi.

Etholwyd Celfyn Furlong i'r sedd wag gyda 603 o bleidleisiau yn y bleidlais ddydd Iau - mwyafrif o 260 dros ymgeisydd Plaid Cymru, Bethan Jones, sydd yn ail safle.

Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o fuddugoliaethau isetholiad ar gynghorau Cymru i blaid Nigel Farage yn y cyfnod cyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai, gyda pholau piniwn yn awgrymu ras dau geffyl rhwng Plaid a Reform.

Cafodd yr isetholiad ei gynnal wedi marwolaeth yr cynghorydd Plaid a chyn-lywydd CBDC, Trefor Lloyd Hughes, ym mis Tachwedd yn 77 oed.

Dyma'r canlyniad llawn:

  • Celfyn Furlong (Reform) - 603
  • Bethan Jones (Plaid Cymru) - 343
  • Mary Roberts (Llafur) - 171
  • Nick Bounds (Gwyrdd) - 118
  • Margaret John (Ceidwadwyr) - 112
  • Robert Williams (Annibynnol) - 26

Roedd y ganran a bleidleisiodd yn isel o 33.3% gydag un papur pleidleisio wedi'i wrthod.

Mae Plaid yn cadw 19 sedd ar Gyngor Môn, gydag 11 cynghorydd annibynnol, tri o Lafur, un o Reform ac un o'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae Ynys Cybi hefyd yn cael ei chynrychioli gan y cynghorydd Llafur Keith Roberts a'r cynghorydd annibynnol Dafydd Rhys Thomas.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'