Rali i wrthwynebu cynlluniau ffermydd solar

Friday, 4 July 2025 14:48

By Ystafell Newyddion MônFM

Lightsource BP

Mae rali gymunedol wedi’i drefnu i wrthwynebu'r cynlluniau i ddatblygu dwy fferm solar enfawr ar Ynys Môn.

Byddai prosiectau Alaw Môn (160MW) a Maen Hir (350MW+), a ddatblygwyd gan Enso Energy a BP Lightsource, yn gorchuddio 3,700 erw o dir ar yr ynys.

Mae graddfa’r ddau brosiect yn golygu y bydd y penderfyniad terfynol ar y ddau yn mynd tu hwnt i’r awdurdod lleol, gyda phenderfyniad ar brosiect Alaw Môn gan Lywodraeth Cymru i'w ddisgwyl cyn diwedd yr haf.

Disgwylir i'r cynlluniau terfynol ar gyfer prosiect Maen Hir gael ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn.

Ond mae Plaid Cymru wedi cyhuddo datblygwyr o ddangos "ychydig iawn o sylw i’r pryderon a godwyd".

Bydd y rali brotest a gynhelir yng nghanol tref Llangefni ar dydd Sadwrn 26 Gorffennaf rhwng 10yb a 11yb.

Mewn datganiad ar y cyd ar gyhoeddiad y rali gymunedol, dywedodd Rhun ap Iorwerth a Llinos Medi: "Mae yna deimlad cryf ar Ynys Môn bod y datblygiadau hyn yn mynd yn groes i fuddiannau ein cymunedau a bod y datblygwyr wedi rhoi ychydig iawn o sylw i’r pryderon a godwyd."

“Mae gan ynni solar ran bwysig i’w chwarae yn ein hymdrech i ddatgarboneiddio, ond bydd prosiectau ar raddfa ddiwydiannol fel hyn ar dir cynhyrchiol yn cael effaith andwyol sylweddol ar gymunedau ac ar y sectorau amaethyddiaeth a thwristiaeth tra’n cynnig ychydig iawn o gyfraniad economaidd a swyddi yn lleol.

“Rydym yn parhau i wneud yr achos i Lywodraethau’r DU a Chymru i wrthod y cynlluniau a chefnogi ffyrdd mwy arloesol o ddatblygu prosiectau ynni solar ac ynni adnewyddadwy eraill yn lle."

"Rydym hefyd yn annog unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy neu sy’n pryderu am y datblygiadau i ymuno â ni yn y rali gymunedol ar 26 Gorffennaf.”

Mae MônFM wedi cysylltu y cwmnïau Enso Energy a BP Lightsource am ymateb.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Soul on Sunday

    8:00pm - 10:00pm

    Join Malcolm Williams for two hours of great music to finish the weekend. Get in touch with the show on Facebook

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'