
Mae'r stryd fawr yn nhrefi Môn yn cael ei thrawsnewid fel rhan o brosiect cymunedol.
Yn ystod yr 12 mis diwethaf, bu'r prosiect Paentio'r Dref wella edrychiad 60 adeliad ar draws yr Ynys - a bydd 80 eiddo arall yn elwa yn 2025-26.
Lansiwyd y cynllun peilot yn 2024 gan ganolbwyntio i ddechrau ar Amlwch a Chaergybi.
Eleni, mae'r rhaglen yn parhau i weithio yn y ddwy dref ac mae'r cynllun wedi'i ymestyn i Llangefni lle mae dwy res o eiddo yn cael eu trawsnewid ar hyn o bryd.
Mae'r fenter yn cael ei rhedeg gan MônCF gyda ymgyrch gan y cyngor syr.
Eglurodd Rita Stewart, prif weithredwr MônCF: "Daeth y prosiect 'Paentio'r Dref' o'r syniad fod côt o baent ac ychydig o waith tacluso yn gallu gwneud gwir wahaniaeth i'r teimlad sydd gan bobl am eu trefi."
"Tu hwnt i wella'r edrychiad, mae'n helpu i greu mannau lle bydd pobl yn mwynhau treulio amser ac yn teimlo'n falch ohonynt."
"Mae'r adeiladau lliwgar, deniadol yn cyfrannu at awyrgylch positif a gall helpu i roi hwb i adfywiad y stryd fawr."
Er mwyn sicrhau'r effaith mwyaf a'r gwerth gorau am arian, mae'r cynllun yn blaenoriaethu grwpiau amlwg o eiddo ar y stryd fawr sy'n sownd i'w gilydd. Mae nifer o gontractwyr sgaffaldau a phaentio lleol wedi eu cyflogi i gyflawni'r gwaith.
Mae perchnogion adeiladau a chynghorau tref lleol hefyd wedi bod yn ymwneud yn agos â'r cynllun.
Dyweddod y Cynghorydd Gary Pritchard, arweinydd Cyngor Ynys Môn: "Rwy'n croesawu'r fenter hon a'r gwaith rhagorol y mae MônCF a'r contractwyr lleol yn ei wneud."
"Mae'n amlwg yn gwneud gwahaniaeth gweladwy i ba mor ddeniadol yw'r stryd fawr o fewn ein trefi ac mae'n cefnogi ein hymrwymiad i gefnogi'r economi a busnesau lleol i dyfu a ffynnu, fel yr amlinellir yng nghynllun y cyngor."