Mae'r gwaith i adfer Afon Ogwen a'i hisafonydd ar fin dechrau.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ariannu prosiect newydd i wella iechyd afonydd, creu cynefinoedd bywyd gwyllt newydd a gwneud lle i ddŵr yn y dirwedd.
Bydd cam cyntaf y gwaith yn dechrau cyn diwedd y mis, mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.
Meddai Sarah Aubrey, uwch swyddog amgylchedd CNC: "Mae’r prosiect hwn yn nodi cam cyntaf pwysig wrth ganiatáu i Afon Cywion ac Afon Ogwen ymddwyn yn fwy naturiol unwaith eto."
"Drwy wneud lle i ddŵr, gwella cynefinoedd ac adfer prosesau naturiol hanfodol, rydym yn helpu i greu system afonydd iachach a mwy gwydn ar gyfer bywyd gwyllt a phobl leol."
"Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ac o fod yn cefnogi'r cam hwn drwy ein cyllid natur a'r argyfwng hinsawdd."
Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar Afon Cywion, llednant sy'n llifo islaw fferm Blaen y Nant yn Nant Ffrancon a disgwylir iddo gymryd tua phythefnos i'w gwblhau.
Fel rhan o'r cam hwn, bydd deunydd sydd wedi cronni o weddillion a garthwyd o wely'r afon ar hyd Afon Cywion yn cael ei symud.
Ar hyn o bryd mae'r dyddodion hyn yn gweithredu fel bwnd, ac yn rhwystro llif yr afon a'i datgysylltu oddi wrth ei gorlifdir naturiol. Bydd y deunydd yn cael ei storio gerllaw a'i ddefnyddio yng ngham nesaf y gwaith adfer.
Bydd rhan o’r wal gerrig ym mhen isaf Cae Twmffat, wrth ochr Afon Ogwen, hefyd yn cael ei datgymalu'n ofalus.
Bydd cerrig y wal a adeiladwyd yn wreiddiol yn ystod cam cynharach o waith adfer, yn cael eu hailddefnyddio i godi waliau terfyn newydd o amgylch buarth y fferm - gan helpu i reoli'r da byw sy'n pori'r dyffryn a darparu'r cynefin sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig.
Mae'r gwaith hwn yn gam pwysig er mwyn helpu'r afon i lifo mewn ffordd fwy naturiol a deinamig.
Bydd ailgysylltu'r afon â'i gorlifdir yn arafu llif y dŵr, gan leihau erydiad a’r risg o lifogydd i gymunedau a seilwaith i lawr yr afon. Bydd hefyd yn creu cynefin gwlyptir, yn adfer amgylcheddau graean afonydd agored, ac unwaith eto'n caniatáu cyflenwi a symudiad graean naturiol yn Afon Ogwen.
Bydd y gwelliannau yn rhoi hwb i ardaloedd silio eogiaid a brithyllod môr ac yn creu amodau gwell ar gyfer adar sy'n ddibynnol ar afonydd fel bronwen y dŵr, pibydd y dorlan a glas y dorlan.
Ychwanegodd Dewi Davies, rheolwr proseict gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: "Rydym yn adfer prosesau naturiol ac yn gwella cynefinoedd ym Mlaen y Nant fel bo’r dirwedd yn iachach ac yn well i natur yn y dyfodol."
"Mae hon yn fferm bwysig yr ydym yn bwriadu ei hail-osod yn fuan, a bydd cynefinoedd mwy gwydn yn ymblethu â model ffermio'r dyfodol."


Dau ddyn wedi marw ar yr Wyddfa
Ymgynghoriad ar gynllun datblygu lleol newydd
Gwaith i helpu i leihau erydiad yn Ninas Dinlle
Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Pennod newydd i Ysgol Friars