Pont Menai: gwaith i ddechrau ar drawstiau croes

Saturday, 7 February 2026 10:23

By Ystafell Newyddion MônFM

LC

Bydd gwaith i atgyweirio trawstiau croes ar Bont Menai yn dechrau yn ddiweddarach y mis hwn.

Bydd mesurau rheoli traffig yn cael eu rhoi ar waith gyda system llif llanw ar gyfer y gwaith, yn dechrau ar dydd Iau 19 Chwefror am gyfnod o oddeutu wyth diwrnod.

Rhwng 7am a 1pm bydd traffig yn gallu croesi o Ynys Môn i'r tir mawr, a rhwng 1pm a 7pm bydd traffig yn gallu croesi o'r tir mawr i Ynys Môn.  Rhwng 7pm a 7am bydd signalau traffig arferol ar waith.

Dwyeddod llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fel rhan o raglen ehangach a diwygiedig Cam 2 ni fydd mesurau rheoli traffig ond ar waith am gyfnodau byr er mwyn gallu cwblhau elfennau allweddol." 

"At ei gilydd mae'r cynlluniau diwygiedig wedi lleihau'n sylweddol yr angen i reoli traffig ar y bont, o'i gymharu â'r cynlluniau cynharach, a thrwy hynny bydd llai o darfu ar drigolion, cymudwyr a busnesau."

"Mae gorfodi'r terfyn pwysau 7.5‑tunnell yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer cynnal gweithrediad diogel y bont tra bo'r gwaith yn parhau."

Bydd gwaith cynnal a chadw ar y bont yn parhau tan wanwyn 2027 fan bellaf, gan fethu addewid i gwblhau'r atgyweiriadau mewn pryd ar gyfer y 200fed pen-blwydd.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    2:00pm - 4:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'