Penodi cyfarwyddwr artistig newydd Galeri

Thursday, 25 September 2025 11:34

By Ystafell Newyddion MônFM

Galeri

Mae Galeri wedi cyhoeddi mai eu cyfarwyddwr artistig newydd fydd Mari Elen Jones.

Yn ôl y lleoliad celfyddydau yng Nghaernarfon, bydd Mari’n dod â'i phrofiad fel gwneuthurwr theatr a pherfformiwr i'r rôl.

Mae'n aelod o gwmni theatr gymunedol Tebot ac yn greawdwr podlediad Gwrachod Heddiw.

Dwyeddod Mari: "Yn yr oes sydd ohoni dwi’n teimlo bod hi’n bwysig i bobl ddod at ei gilydd i fwynhau a chael dianc, ac i mi, does ‘na ddim dihangfa well na’r celfyddydau."

"Fy mwriad ydy datblygu rhaglen sydd yn mynd i gynnig rhywbeth i bawb - gan gyffroi cynulleidfaoedd, meithrin yr ymdeimlad o gymuned a sicrhau bod lleisiau pawb yn cael eu cynrychioli trwy arlwy greadigol Galeri."

"Wrth agor y drysau i bawb a chydweithio hefo artistiaid, cwmnïau a’r gymuned leol bydd Galeri’n byrlymu, ffynnu ac ehangu ei gorwelion." 

Mae Mari’n wyneb cyfarwydd yn Galeri yn dilyn ei hamser yn gweithio fel cydlynydd Sbarc, cwmni theatr ieuenctid Galeri.

Drwy guradu rhaglen artistig, bydd y rôl newydd yn siapio profiad ymwelwyr y Galeri, yn ogystal â gweithio fel catalydd i ganfas celfyddydol Caernarfon a’r ardal — drwy gydweithio â phartneriaid allweddol yn y dref a thu hwnt.  

Ychwanegodd: “Mae Galeri yn adeilad eiconig yma yn Arfon sydd wedi rhoi profiadau arbennig i mi dros y blynyddoedd ac atgofion gwych o weithio hefo Sbarc, Cain a mwy."

"Ond rhaid cofio mae Galeri yn fwy nag adeilad — mae o wedi bod yn lloches greadigol i bobl o’r un anian â fi sy’n ysu am gysylltiad; hwb reit yng nghanol Caernarfon sy’n cynnig ei hun fel calon y gymuned artistig yng Ngogledd Orllewin Cymru."

"Dwi wir yn edrych ymlaen at lywio'r ochr greadigol ym mhennod nesaf Galeri."

Daw wrth i dîm a llwyddiant Galeri dyfu dan arweiniad y prif weithredwr, Nia Arfon — gyda dros 30% yn fwy o docynnau wedi’u gwerthu yn hanner cyntaf 2025 na’r un cyfnod y llynedd.

Dwyeddod Nia: "Deinamig, egnïol a gwreiddiol - dyna’r gwerthoedd sydd am wthio cwmni Galeri i'w phennod nesaf, a’r union werthoedd gyflwynodd Mari i ni fel rhan o’r broses gyfweld."

"Corff sy’n sbarduno twf economaidd a chymdeithasol ydy Galeri, a gyda Mari’n rhan o’r uwch dîm, rydym yn hyderus bydd modd i ni gyd-blethu profiadau creadigol a diwylliannol i ffyniant yr ardal leol." 

Bydd Mari yn cychwyn yn ei swydd dros gyfnod yr Hydref.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Tomos Dobson

    9:00pm - 11:00pm

    Mwy o gerddoriaeth gwych yng nghwmni Tomos

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'