Niwbwrch: ystâd newydd bron â'i chwblhau

Tuesday, 3 March 2026 14:30

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae gwaith ar ystâd dai newydd yn Niwbwrch bron wedi'i gwblhau.

Mae 14 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu ar safle'r hen ysgol gynradd, gyda'r tenantiaid cyntaf yn symud i mewn fis nesaf.

Bydd y stad newydd yn cael ei hadnabod fel Llain Ddysg, sydd wedi ei henwi gan ddisgybl o Ysgol Santes Dwynwen.

Yn ôl Cyngor Ynys Môn, mae'r datblygiad yn nodi cam allweddol arall wrth fynd i'r afael â'r angen am dai yn lleol.

Bydd yr ystâd yn cynnwys cymysgedd o dai dwy, tair a phedair ystafell wely, ynghyd â fflatiau un ystafell wely.

Bydd y cartrefi'n cael eu gosod ar rhent cymdeithasol, a rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sydd â chysylltiad uniongyrchol â'r gymuned leol.

Dywedodd Ned Michael, pennaeth tai Cyngor Môn: "Rydym yn falch iawn o weld y gwaith ar Lain Ddysg yn datblygu a'n bod yn darparu cartrefi ynni effeithlon o ansawdd uchel i bobl yn Niwbwrch."

"Mae datblygiadau fel hyn yn holl bwysig er mwyn ein helpu i ymateb i'r galw am dai ar yr Ynys, yn ogystal â sicrhau fod ein cartrefi newydd yn bodloni safonau amgylcheddol modern."

"Mae rhoi blaenoriaeth i bobl sydd â chysylltiad lleol yn helpu i gryfhau cymunedau ac mae'n sicrhau fod buddion y buddsoddiad hwn yn aros yn yr ardal."

Mae'r tai i gyd yn cael eu hadeiladu'n unol â safonau tai Llywodraeth Cymru a byddant yn dai ffrâm bren ac yn cyrraedd safon uchel o effeithlonrwydd ynni.

Wedi'u dylunio i gyrraedd gradd A o ran perfformiad ynni, bydd y cartrefi'n helpu i ostwng costau ynni i denantiaid, yn ogystal â chyfrannu at ymrwymiad y cyngor i ostwng ei ôl-troed carbon.

Fel rhan o'r ddatblygiad, ymwelodd disgyblion o Ysgol Santes Dwynwen â'r safle ac fe wnaethon nhw ddylunio posteri iechyd a diogelwch sydd wedi cael eu harddangos o amgylch y safle er mwyn hyrwyddo ymddygiad diogel.

Mae swyddogion y cyngor hefyd wedi ymweld â'r ysgol hefyd, i siarad â'r disgyblion am ddiogelwch ar safleoedd adeiladu a phwysigrwydd cadw eu hunain yn ddiogel.

Dywed y cyngor fod y datblygiad yn cefnogi un o amcanion strategol allweddol cynllun pum mlyhedd yn uniongyrchol, sef sicrhau fod gan bawb yr hawl i alw rhywle'n 'gartref', wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i fynd i'r afael ag anghenion tai lleol

Ychwanegodd y Cynghorydd Carwyn Jones, sy'n deilio portffolio tai: "Darparu cartrefi fforddiadwy, cynaliadwy, yw un o brif flaenoriaethau'r cyngor."

"Mae Llain Ddysg yn esiampl dda iawn o sut rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol i gwrdd â'r galw am dai, yn ogystal â lleihau ein ôl-troed carbon."

"Mae wedi bod yn fendigedig gweld plant lleol yn cael eu cynnwys yn y prosiect, o ddysgu am ddiogelwch ar safleoedd adeiladu i ddewis enw'r ystad. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r tenantiaid newydd a gweld y datblygiad hwn yn dod yn rhan werthfawr o'r gymuned."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Brecwast MônFM gyda Tomos a Cari

    7:00am - 10:00am

    Bore da! Mae Tomos a Cari yma ar MônFM i gychwyn y diwrnod gyda'r gerddoriaeth orau.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'