
Mae porthladd Caergybi yn elwa o gynydd mewn ymweliadau llongau mordeithio i Gymru, yn ôl ffigurau newydd.
Croesawodd y wlad 84 o longau mordeithio yn 2025, sy'n gynnydd o fwy na 100% o'i gymharu â'r 41 o longau a ymwelodd â phorthladdoedd Cymru yn 2021.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r twf parhaus yn dangos cydnabyddiaeth gynyddol Cymru fel cyrchfan y mae'n rhaid ymweld ag ef ymhlith teithwyr sy'n chwilio am brofiadau go iawn a thirweddau trawiadol.
Roedd Caergybi, sydd â chyfleusterau sy'n gallu darparu ar gyfer llongau hyd at 300 metr o hyd, wedi ymdrin â 55 o'r 84 o longau a ymwelodd â Chymru yn 2025.
Ar gyfer llongau mwy, mae system angori'r porthladd yn caniatáu i deithwyr gael eu trosglwyddo drwy longau tendio i'r marina, gan sicrhau y gall hyd yn oed llongau mwyaf y byd ddod ag ymwelwyr i brofi Gogledd Cymru.
Dywedodd Wendy Atkin-Smith, rheolwr gyfarwyddwr Viking UK: "Mae ymweld â Chaergybi a'r rhanbarth cyfagos yn un o uchafbwyntiau mordeithiau cefnfor Ynysoedd Prydain."
"Mae ein gwesteion yn mwynhau dysgu am ddiwylliant a hanes y cyrchfannau y maent yn ymweld â nhw yn ogystal â chael y cyfle i gwrdd â phobl leol ac maent bob amser yn cael croeso cynnes iawn yng Nghymru."
"Mae ein gwesteion wrth eu bodd yn archwilio'r ardal leol ac mae gan y rhanbarth lawer i'w gynnig - o ddysgu am yr hanes morwriaeth ac ymweld â'r caerau Rhufeinig a'r siambrau claddu hynafol i gwrdd â'r teulu sy'n berchen ar Gastell Gwydir ac aelodau eraill o'r gymuned leol i flasu arbenigeddau coginio Ynys Môn i daith gerdded olygfaol yn Eryri neu daith RIB yn Afon Menai."
"Mae disgwyl i ni alw yng Nghaergybi 25 gwaith y flwyddyn nesaf, cynnydd o bron i 40 y cant ers 2025, felly edrychwn ymlaen at ddod â llawer mwy o deithwyr i weld y rhanbarth yn 2026."
Mae Cymru yn cynnig mynediad i weithredwyr a theithwyr mordeithio i bum porthladd sydd wedi'u lleoli'n strategol ledled y wlad: Caerdydd, Abertawe, Aberdaugleddau, Abergwaun, a Chaergybi, gyda phob un yn darparu mynediad heb ei ail i atyniadau amrywiol y wlad.
Ychwanegodd Rebecca Evans, ysgrifennydd yr economi: "Mae'r twf rhyfeddol hwn mewn ymweliadau mordeithio yn dangos ein proffil cynyddol fel cyrchfan blaenllaw."
"Rwy'n falch iawn bod ein porthladdoedd yn croesawu nifer cynyddol o ymwelwyr rhyngwladol sy'n dod â buddsoddiad hanfodol i'n cymunedau lleol."
"Mae'n stori lwyddiant sy'n adlewyrchu ymrwymiad ein sector twristiaeth i adeiladu diwydiant cynaliadwy sy'n darparu manteision economaidd sylweddol wrth gyfoethogi ein diwylliant."
"Mae Cymru'n cynnig cymysgedd anhygoel o dirweddau trawiadol, treftadaeth gyfoethog a chymunedau bywiog i ymwelwyr, i gyd wedi'u cyflwyno gyda'n croeso Cymreig enwog."
"Mae'r llwybr twf hwn yn ein gosod yn berffaith ar ben ffordd ar gyfer dyfodol hyd yn oed mwy disglair i'r sector mordeithio yma."