
Mae Ysgol David Hughes wedi dod yn ysgol uwchradd gyntaf ym Môn i ennill gwobr arian gan yr Siarter Iaith.
Mae Grŵp Cymreictod YDH - criw o ddysgwyr gweithgar a brwdfrydig - wedi bod yn gweithio i ymgorffori egwyddorion y siarter ym mywyd pob dydd yr ysgol ym Morthaethwy.
Mae'r criw wedi trefnu digwyddiadau megis Eisteddfod Ysgol, gigs, ymweliadau a busnesau yn y gymuned leol, cystadleuaeth ;Bake Off' a dysgu Cymraeg i ymwelwyr sydd ar eu gwyliau yn ardal yr ysgol.
Dyweddod Mari Roberts, pennaeth Ysgol David Hughes: "Mae'r gwaith o hybu'r iaith bellach wedi'i gwreiddio yng nghymuned yr ysgol ac mae gennym weledigaeth glir ar gyfer symud y gwaith ymlaen."
"Rwyf yn hynod o falch o lwyddiant aelodau'r grŵp cymreictod wrth iddynt ennill y Wobr Arian Siarter Iaith Uwchradd. Mae'r ffaith mae ein hysgol ni yw'r ysgol uwchradd cyntaf ym Môn i gyrraedd y garreg filltir yma hefyd yn ysgogi balchder mawr."
"Mae'r disgyblion, gyda chefnogaeth staff, wedi blaenoriaethu manteision dwyieithrwydd ac yn sicr wedi llwyddo i godi proffil y Gymraeg yn sylweddol yma. Hoffwn ddiolch hefyd i'n corff llywodraethu, rhieni a'n partneriaid cymunedol am eu cefnogaeth ar y daith hyd yma."
Mae Siarter Iaith yn gynllun gan Lywodraeth Cymru sy'n anelu at hybu defnydd y Gymraeg mewn ysgolion a'r gymdeithas ehangach.
Ei nod yw ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd er mwyn cynyddu defnydd cymdeithasol plant a phobl ifanc o'r Gymraeg.
Mae'r gymuned gyfan yn Ysgol David Hughes yn awyddus i barhau a'r gwaith er mwyn gwireddu gweledigaeth o gynnig yr addysg ddwyieithog orau i bob disgybl a chreu cymdeithas agored a chynhwysol sy'n parchu safbwyntiau, dyheadau a gobeithion pawb yno.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, deilydd portffolio addysg a'r Gymraeg yng Nghyngor Ynys Môn: "Mae'n wych gweld Ysgol David Hughes a nifer o ysgolion cynradd y Sir yn ymledu gweledigaeth y Siarter Iaith."
"Mae gwaith caled y grŵp cymreictod, gyda chefnogaeth staff yr ysgol, wedi ei gydnabod a'i anrhydeddu gyda'r Wobr Arian Siarter Iaith Uwchradd."
"Mae annog defnydd yr iaith yn ein hysgolion ac ar lawr gwlad yn hynod o bwysig ac yn cyfrannu at y dasg o wneud y Gymraeg yn rhan naturiol o fywyd cymunedol."
Cafodd y disgyblion a'r ysgol hefyd eu llongyfarch gan gynghorwyr sir ward Aethwy, sef Robin Williams, Sonia Williams a Dyfed Wyn Jones.
Ychwanegodd y Cyng. Robin Williams, sydd hefyd yn un o lwydodraethwyr yr ysgol: "Mae Cynllun y Cyngor (2023-28) yn cydnabod y Gymraeg fel rhan annatod o hunaniaeth, diwylliant a threftadaeth Ynys Môn."
"Rydym yn hynod o falch bod Ysgol David Hughes yn dangos gwir ymrwymiad i'r Iaith Gymraeg a bod ymdrechion disgyblion, staff a'r gymuned ysgol ehangach wedi eu cydnabod."